MR. ELIJA R. DANIELS. BALA, RILEY COUNTY, KANSAS.

Mawrth 1af, 1890, yn nhy ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith, John E. Jones, Bala, Riley County, Kansas, Elija R. Daniels, o'r darfodedigaeth, yn 64 mlwydd oed.

Dyoddefodd yr afiechyd yn dawel am ysbaid pum' mis. Ymfudodd ef a'i deulu yma o Ohio yn 1869, sef o'r lle a elwir yn awr Leonardville, ond y pryd hwnw Abembig.

Yn 1881 bu farw ei wraig gan adael priod a phedwar o blant i alaru ar ei hol.

Genedigol oeddynt o Sir Feirionydd, Gogled Cymru.

Dydd Llun, Mawrth y 3ydd, ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng ei weddillion at ochr eiddo ei briod yn mynwent y Bala.

Y Drych ~ Mawrth 20th 1890.