MR. OWEN DAVIES. BIG BEND, WASHINGTON.
Rhagfyr 19eg, 1890, o'r ddarfodedigaeth, yn y Big Bend, Washington, Owen Davies, ar ôl dyoddef cystudd am dros flwyddyn o amser. Fel y nesAi at y terfyn yr oedd y cystudd yn ychwanegu poen yn nghyd a difa ei nerth, fel yr oedd awr ymddatodiad iddo yn rhyddhad a gorphwysfa. Bu farw yn dawel fel dyn ieuanc oedd yn ymddiried yn ei Dduw. Terfynodd ei yrfa yn mhlith cyfeillion o'i gydgenedl, y rhai fuont yn hynod o garedig iddo yn ei waelder.Dywedodd fel rhai o'i eiriau diweddaf, "Yn mhob cyfyngder, ing a phoen, O Dduw! na wrthod fi." Perchid ef fel dyn ieuanc o gymeriad moesol a chrefyddol.
Claddwyd ef Rhagfyr 21ain, yn mynwent capel newydd y T. C., pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. James Howell, yr unig weinidog sydd yn y gymydogaeth.
Y mae ei rieni wedi ei flaenu i'r byd ysbrydol. Triga ei frawd yn Spokane Falls; efe oedd yr unig berthynas yn ôl y cnawd oedd yn yr angladd. Hefyd mae dau frawd a dwy chwaer yn Nghymru, i'r rhai y bydd yn gysur cael ar ddeall fod eu brawd wedi derbyn caredigrwydd a thynerwch.
Ychydig flynyddau yn ôl y daeth Owen Davies i'r wlad hon. Mab oedd i John Davies, Cornel-y-wal, Ffestiniog, Gogledd Cymru.