MR. ROWLAND DAVIES. WILLIAMSBURG, IOWA.

Hydref 24ain, 1890, yn Williamsburg, Iowa, yn 62 mlwydd oed, Rowland Davies, mab John Davies, Glanymor, Towyn, Melrionydd. Bu yn gwasanaethu mewn amryw ffermydd yn amgylchoedd Towyn a Bryncrug nes yr ymfudodd i'r wlad hon yn 1850. Ymsefydlodd yn Cassville, New York, a'r flwyddyn ganlynol yn Utica ymunodd mewn glan briodas gydag Ann Owen. Yn gynar yn 1857, symudodd i'r gymydogaeth hon, lle y bu byw hyd ei farwolaeth.

Pan y torodd y gwrthrfel allan ymunodd a'r fyddin i amddiffyn ei wlad. Dyma fel y dywed un o'i gyfeillion am dano yn y papyr lleol yma:

"Although a native of Wales, yet when his adopted country became involved in civil war, his fidelity to her interest was emphatically proclaimed when he determined to leave his wife and children, and all that is implied by the sacred word 'home,' to go forth to brave the dangers of hospital and battlefield. This determination he carried out Aug. 14th, 1862, when he enrolled as a private in Company G, 28th Iowa Infantry Volunteers. As a soldier his record was one not to be ashamed of. In the battle of Champion Hill. Mississippi. May 16th, 1863, the 28th Iowa Regiment, bore a gallant part. The Division to which it belonged was under command of Gen. Alvin P. Hovey (now Governor of Indiana), and to his division belongs the credit of winning the bloody battle of Champion Hill, which settled the fate of Vicksburg, and wrested from rebel control the Mississippi River. In this battle, while aiding Perry Butler, Henry V. Evans, D. H. Phillips, in the effort to remove from the field a wounded comrade, Amos Tullis, comrade Davies was captured by the rebels and to the severe experience of that day are traceable the beginning of the bodily Infirmities which was marked during the last few years of his life, but which were borne uncomplainingly."

Claddodd ei anwyl briod yn y flwyddyn 1877, telmlodd yn fawr ar ei hol, a chafodd groes drom pan ei gollodd, ac ni allai beidio coffa yn aml gyda hiraeth amdani.

Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn New York. a glynodd yn ffyddlawn gyda chrefydd tra y bu byw. Yr oedd crefydd yn werthfawr yn ei olwg, a thŷ yr Arglwydd yn agos at ei feddwl a'i galon bob amser. Bu yn ymdrechgar a ffyddlon tra y gallodd i ddyfod i foddion gras. Trwy ei ffyddlondeb daeth i fyny a'r amod hon, "Bydd ffyddlon hyd angeu, a mi a roddal i ti goron y bywyd." Cafodd lawer o gystudd yn ei flynyddoedd diweddaf, ac ni bu yn alluog i fyned nemawr o'r tŷ y flwyddyn ddiweddaf y bu fyw; ond dyoddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach. Yr oedd crefydd yn rhoddi cysur cryf iddo, ac yn peri iddo deimlo chwant i ymddatod ac i fod gyda Christ, gan deimlo yn siwr ei bod yn llawer gwell yno. Yr oedd ei gystudd yn gweithio yn odidog ragorol.

Tra yr oedd y dyn oddiallan yn llygru, yr oedd y dyn oddifewn yn cynyddu o ddydd i ddydd. Trwy ystod ei hir gystudd cafodd bob ymgeledd a thynerweh a allasai ei blant ei estyn a'i rhoddi iddo. Yr oedd yn dad tyner a charedlg, a gofalodd am roddi addysg dda i'w blant, nes y maent heddyw wedi cyfodi gyda'u gilydd ac a'u galwant ef yn ddedwydd. Gadawodd wyth o blant i alaru ar ei ôl.

Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol, y Parchn. E. Joseph, R. E. Roberts a John Hughes, ieu., yn gwelnyddu.
ELFYN.

Y Drych ~ Tachwedd 27ain 1890.