MRS. JANE EVANS. CHICAGO, ILLINOIS.
Tachwedd 26ain, 1890, yn Chicago, Illinois, Mrs. Jane Evans, priod Evan W. Evans, diacon yn eglwys y T. C., ar ôl anhwyldeb am amryw flynyddoedd.Merch ydoedd i William Jones, Caerhendre, plwyf Llanarmon, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd hi yu 1818; daeth i'r wlad hon yn 1850 a bu yn aros am beth amser yn Racine, Wiconsin.
Priododd Mr. Evans yn 1854, a bu yn aelod o eglwys y T. C. am 37 o flynyddoedd, gan fod yn ffyddlon i foddion gras ac i ddarllen ei Beibl. Pan yn ieuanc gallem feddwl ei bod yn brydweddol iawn. Cafodd ei dwyn i fyny mewn teulu crefyddol, ac yr oedd ei dylanwad yn dda ar y gymydogaeth. Y blynyddoedd diweddaf gwanhaodd ei meddwl ond erbyn heddyw, credu yr ydym ei bod wedi ei hadfer yn llwyr, a'i henaid yn ddiogel yn ngafael yr iachawdwriaeth, ac yn nghwmni ei mab a'i merch, y rhai fuont farw yn eu maboed.
Cafodd gladdedigaeth barchus o'r capel i Graceland Cemetery. Gwelnyddwyd yno gan ei gweinidog. Nerther ein brawd yn ei alar a'i unigedd, a'r holl berthynasau.
D. HARRIES.