MRS. ANNE GRIFFITHS. DANIELSVILLE, PENNSYLVANIA.

Mawrth 24ain, 1890, Anne Griffiths, priod Mr. William Griffiths, Danielsville, Pennsylvania, yr hwn hwyrach a adwaenir yn well gan y lluaws wrth yr hen enw William Griffiths, Tyn-y-maes, Bethesda, Gogledd Cymru.

Genedigol oedd yr ymadawedig o Rhiwlas, ger Pentir, Sir Gaernarfon. Enw ei rhieni ydoedd Robert a Catherine Williams. Bu iddi 12 o blant, pump o'r rhai a'i rhagflaenodd i'r orphwysfa nefol; mae saith eto yn fyw i wylo ar ôl mam dyner a gofalus. Y dydd Gwener canlynol i'w marwolaeth daeth torf fawr yn nghyd i hebrwng ei gweddillion i fynwent St. Paul's Church, ger Cherryville. Darllenwyd a gweddiwyd yn y tŷ cyn cychwyn gan y Parch. W. R. Edwards, o Gymru, yr hwn oedd yn dygwydd bod yn yr ardal ar y pryd. Wrth y bedd ac yn y capel gweinyddwyd gau y Parch. J. W. Mabry, Cherryville.

Daeth tad yr ymadawedig i'r wlad hon pan nad ydoedd hi ond dwy flwydd oed, a'r unig chwaer oedd ganddi ond tri mis oed - yr hon sydd yn awr yn fyw ac yn briod â G. Lloyd, Granville, New York. Bu ei thad farw yn lled fuan ar ôl iddo fudo yma. Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon 39 o flynyddau yn ôl, yn 17 oed, felly ei hoedran pan fu farw ydoedd 56. Ei hafiechyd oedd anwyd yn y dechreu, ond trodd cyn hir i fod yn ddarfodedigaeth. Bu yn gystuddiol am dair blynedd, a dyoddefodd boenau mawr, yn enwedig y pedwar mis olaf y bu byw; ond er y cwbl yr oedd yn dawel iawn ac yn hollol ddirwgnach. Yr oedd yn awyddus iawn am gael gwella, ac ymdrechodd hi a'i phriod gymaint ag oedd yn eu gallu tuag at iddi gael hyny, ond angeu orchfygodd.

Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Un hynodrwydd yn ei bywyd crefyddol ydoedd ei hunanymwadiad gostyngedig, a diau mai o hyn y tarddai ei dystawrwydd gwylaidd. Ychydig ddywedai; nid oedd yn ystyried ei hun yn ddigon doniol a duwiol i siarad llawer, ond ei hoffder er hyny oedd bod yn swn ymddyddan am Grist a chrefydd. Yr oedd yn perthyn iddi hefyd ragoriaethau fel priod a mam a chymydoges. Meddai dalent neillduol i gadw ei theulu yn drefnus a chysurus bob amser, ac yr oedd yn ddigon dystaw, diabsen ac anymyrgar, fel ag i fod ar y telerau goreu gyda'i chymydogion yn wastad. Bellach nis gall ei phriod, ei phlant a'i chymydogion wneyd dim yn well na'i hefelychu yn ei phethau da a rhagorol.
CYMYDOG.

Y Drych ~ Ebrill 10fed 1890.