MR. DAVID HUGHES. BRACEVILLE, ILLINOIS.

Mai 13eg, 1890, yn Braceville, Illinois, ar ôl cystudd maith, y brawd David Hughes, yn 78 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Abergynolwyn, Meirionydd.

Symudodd oddiyno i Dredegar yn 1840, a daeth oddiyno i Braceviile yn 1872. Yn mhen ychydig dros flwyddyn dychwelodd i Dredegar; ond symudodd drachefn ddwy flynedd yn ôl i Braceville.

Dygwyd ef i fyny pan yn ieuanc yn aelod eglwysig gyda'r T. C. Ymunodd a'r Annibynwyr yn mhen tua thair blynedd ar ôl symud i Dredegar o Abergynolwyn, a pharhaodd yn aelod ffyddlon yn Ebenezer, Sirhowy. Yr oedd yn ddiacon gweithgar yn eglwys Ebenezer am flynyddoedd lawer; ac er nad oedd yn siaradwr mawr, eto yn wastad edrychai am le i wneyd daioni i achos crefydd. Yr oedd yn ddirwestwr egwyddorol er's 50 mlynedd. Tra yn Tredegar bu yn ddosbarthwr llyfrau, a throes ei lafur allan yn llwyddiant iddo.

Rhagflaenwyd ef i'r byd ysbrydol gan ei briod, yn nghyd ag wyth o'i blant, sef chwe merch a dau fab. Yr unig un sydd yn fyw o'r teulu yw ei fab hynaf, sef Thomas R. Hughes, yr hwn yn nghyd a'i briod a'i ferch a ofalodd am dano yn y modd tyneraf yn ei fisoedd diweddaf. Aeth adref i ogoniant a'i goron heb syrthio. Cafodd gladdedigaeth barchus. Gweinyddwyd gan y Parch. Thomas Griffiths yn absenoldeb gwelnidog ei eglwys, yr hwn oedd ar y pryd yn afiach. Pregethaf bregeth goffadwriaethol am yr hen frawd mor fuan ag y byddaf yn alluog.
G. R. EVANS.

Y Drych ~ Mai 15fed 1890.