MRS. GWENDOLYN JONES HUGHES. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 14eg, 1890, yn Nelson, Madison County, New York, Mrs. Gwen Hughes, blaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nelson.Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Edward Jones, plwyf Dolgellau, Gogledd Cymru. Priododd David Hughes, Bwlch-helygen, plwyf Aberangell, Sir Drefaldwyn, yn 1840.
Daethant i America yn 1849, a buont byw yn ardal Penycaerau tua dwy flynedd. Yn 1841 symudasant i ardal Nelson, ac yma y treuliasant y rhan fwyaf o'u hoes, a bu eu tŷ yn gartref i ddyeithriaid a phlant amddifaid. Gweithiodd y chwaer yn galed, a bu yn ymdrechgar gyda'r ddau fyd. Yr oedd yn ofalus iawn gyda'r ddyledswydd deuluaidd bob amser.
Bu iddynt naw o blant; claddwyd dau yn Nghymru a dau yn Nelson. Gadawodd briod a phump o blant i alaru ar ei hol - y plant oll yn briod.
Cafodd lawer o gystuddiau, a bu yn bur wanaidd trwy y flwyddyn ddiweddaf; ond yr oedd yn lled dda cyn cael ei chymeryd gan y grippe, yr hyn a brofodd yn angeu iddi. Cafodd bob tynerwch a gofal ag oedd ddichonadwy, ond yr oedd yn amlwg o ddechreu ei chystudd fod awr ei hymddatodiad wedi nesau. Ni chafodd lawer o hamdden i siarad gan bwysau ei dolur, ond yr oedd ei ffyddlondeb a'i hymdrech gwastadol gyda chrefydd yn ei holl ranau, yn nghyd a'i phrofiad crefyddol y misoedd diweddaf, yn dangos yn eglur "Mai gwlad well yr oedd hi yn ei chwenych, sef un nefol."
Chwefror 1af, dathlwyd eu priodas euraidd, ar ôl haner can mlynedd o fywyd priodasol yn yr anialwch, pryd yr oedd 55 yn bresenol er dangos teimladau a pharch yr ardal tuag atynt i'w sirioli yn eu henaint a'u hunigedd. Nid oedd ei phriodas euraidd ond rhyw reception erbyn dydd ei chladdedigaeth, megys.
Claddwyd hi dydd Mercher Ebrill 16eg, yn nghladdfa y Cymry yn Nelson. Gweinyddwyd yn y tŷ, y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. Jeffrey Evans a B. D. Davies. Pregethwyd pregeth angladdol ar ei hol yn nghapel y T. C., Ebrill 27ain, gan B. D. Davies, oddiar Esaiah 33:16, i dyrfa luosog.
Gadawyd yr hen frawd ei hunan yn ei henaint a'i lesgedd, ac nid oes genym ond ei gyflwyno i ofal yr hwn a ddywedodd, "Ni'th roddaf di fyny ac ni'th lwyr adawaf chwaith." Bydded i Fugail Israel ei arwain a'i amddiffyn am y tymor byr sydd heb ei dreulio ganddo, yna caiff weled yn eglur fod pob peth yn cydweithio er daioni iddo.
B. D. DAVIES.