MR. ROLANT R. HUGHES. UPPER LEHIGH, LUZERNE, PENNSYLVANIA.

Hydref 22ain, 1890, yn Upper Le-high, Luzerne, Pennsylvania, Rolant R. Hughes yn 42 mlwydd oed, wedi dyoddef cystudd byr o naw diwrnod.

Gadawodd weddw a phedwar o blant ar ei ól. Ganwyd ef yn Ebenezer, Llandinorwlg, Gogledd Cymru. Ei dad oedd Roland Hughes, pregethwr gyda'r Annibynwyr yn Ebenezor, a llyfrwerthwr wrth ei alwedigaeth, yr hon alwedigaeth fu Rolant yn ddylyn am flynyddau.

Nid oedd dyn oddifewn i Chwarel Dinorwig nad oedd yn adnabod Rolant R. Hughes, y llyfrwerthwr. Dosbarthodd filoedd o Baner ac Amserau Cymru ond er's blynyddau cyn dod o'r Hen Wlad yr oedd yn y fasnach, a bu yn llwyddianus i enill iddo ei hun enw da gan bawb, am ei fod bob amser yn galon agored ac yn barod i gynorthwyo y tlawd. Cymerodd amryw fantais ar ei dynerwch mewn ffordd a fu yn golled iddo; ond ni cheir dim o'i haelioni mwy.

Ni fu yn y wlad hon ond oddeutu 14 o fisoedd; daeth ei yrfa i derfyn er ei fod yn edrych yn ddyn mawr, cryf.

Y Drych ~ Tachwedd 6ed 1890.