MRS. ELLEN HUMPHREY. ROCK HILL, WISCONSIN.
Awst 2ail, 1890, yn 57 mlwydd oed, yn Rock Hill, Wisconsin, Ellen, anwyl briod Mr. William G. Humphrey.Ganwyd hi yn Llandwrog, Sir Gaernarton, Gogledd Cymru.
Symudodd gyda'i rhieni i America yn 1847. Arosodd yn Nhalaeth Pennsylvania gyda modryb am ysbaid blwyddyn, yna symudodd i Dalaeth Wisconsin, lle treuliodd weddill ei hoes.
Merch ydoedd i John ac Ellen Roberts, Glyn-y-meibion. Yr oedd yn un o ddeu ddeg o blant, y rhai sydd oll wedi ei rhagflaenu oddigerth dau frawd.
Bu yn briod â Lewis Evans, masnachwr yn Montello, Wisconsin, yr hwn fu farw gan ei gadaei yn weddw gyda thri o blant, dau fab a merch, y ddiweddaf wedi ei rhagflaenu er's llawer dydd.
Ail briododd gyda William E. Humphrey, Rock Hill. Bu iddynt bedwar o blant, tri mab a merch, oll yn fyw i alaru ar ôl mam dyner a da.
Ymunodd Mrs. Humphrey â chrefydd yn 1868, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd. Bu yn nychu am beth amser ond ni bu yn gorwedd ond wythnos. Nid oedd ei hafiechyd yn hollol hysbys. Barnai y meddygon mai anhwyldeb yr ystumog a'r afu oedd y prif achos. Cafodd bob gofal gan ei theulu a pherthynasau roddi, yn nghyd a phedwar o'r meddygon goreu i weinyddu arni. Coleddid gobaith gwan am ei hadferiad hyd o fewn ychydig i'w marwolaeth, pryd gwelid ei bod yn araf a dystaw ymlithro i lawr i'r glyn. Yr oedd angeu wedi ei gosod yn nod iddo, ac er pob gofal a medrusrwydd nid oedd yn bosibl ei gadw draw.
Yr oedd Mrs. Humphrey yn ddynes rinweddol mewn llawer modd yn dawel a hynod o unplyg. Ni welid byth wen rhagrith yn ei gwyneb, ond bob amser yn bur a diragrith. Bu farw fel y bu fyw, yn hynod o dawel, fel baban yn myned i huno. "Ni frysia yr hwn a gredo."
Gofynwyd iddi ychydig cyn ei hymadawiad am ba beth yr oedd yn gwenu. "Gwel'd cwmni'r pererinion wrth fy modd yr wyf." meddai; a hyderwn ei bod yn eu cwmni heddyw, wedi uno i gydganu, cydfoli, cydfyw.
Dydd Llun canlynol hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Rock Hill, i orwedd wrth ochr ei tbeulu. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. John R Daniels, David Davies, Oshkosh, a Mr. Olmstead.
Bydded Barnwr y gweddwon yn dyner o'i phriod galarus a Thad yr amddifaid yn llon'd ei addewid i'r plant.