MR. JOHN HUMPHREY. FARNAMSVILLE, VERMONT.

Gorphenaf 12fed, 1890, yn Farnamsville, Vermont, yn 70 mlwydd oed, namyn dau fis. John Humphrey, Llwynygell, Blaenau Ffestiniog Gogledd Cymru, gynt, lle mae iddo ferch yn awr.

Ymfudodd i'r wlad hon bum mlynedd yn ôl, i gartrefu gyda'i fab yn y lle uchod. Math o ddarfodedigaeth oedd ei afiechyd.

Bu yn aelod ffyddlawn yn eglwys y T. C. yn y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, am lawer o flynyddau. Parhaodd yn ffyddlon i achos ei Waredwr yn y lle hwn. Yr oedd yn nodedig am ei gysondeb a'i brydlondeb yn y moddion. Credir ei fod wedi derbyn ei "goron cyfiawnder" a'i arddel gan ei Arglwydd fel "gwas da a ffyddlawn."

Claddwyd ef yn Poultney, y Parch. J. W. Morris yn gweinyddu.

Y Drych ~ Awst 7fed 1890.