MRS. ANN JONES. 830 VILLA STREET, RACINE, WISCONSIN.
Medi 12fed, 1890, oddeutu 50 mlwydd oed, Mrs. Ann Jones, priod Mr Robert Jones, 830 Villa Street, Racine, Wisconsin.Yr oedd el hiechyd wedl gwaelu er ys tro, ond yn ystod y gauaf diweddaf cafodd yr influenza, a byth er hyny ni chafodd fwynhau diwrnod o iechyd, er mai i tumor yn benaf y priodolid achos ei marwolaeth.
Merch ydoedd i John Williams, Rhos, Llanegryn. Meirionydd, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon yn bur ieuanc, a bu yn aros am rai blynyddau yn Utica, wedi hyny yn New York. Daeth i Racine yn agos i 18 mlynedd yn ôl. Claddwyd hi yn barchus prydnawn dydd Llun, Medi 15fed, wedi amrai flsoedd o gystudd caled iawn.
Nodded y nef fyddo dros ei phrlod yn ei alar am un a fu iddo yn wraig ddiwyd a gofalus, ac hefyd dros i nith fechan amddifaid.