MRS. ELIZABETH JONES. DUTCH VALLEY, BANGOR, WISCONSIN.

Chwefror 11, 1890, yn Dutch Valley, ger Bangor, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Jones, gweddw y diweddar David J. Jones, yn 59 mlwydd oed.

Yr oedd yn enedigol o Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac enwau ei rhieni oedd Edward a Mary Williams. Daeth y teulu i'r wlad hon yn 1842, a sefydlasant yn ardal Remsen, Swydd Oneida, New York.

Yn Chwefror, 1850, ymunodd mewn priodas â David J. Jones, a bu iddynt wyth o blant; ond yr oedd y tad a thri o'r plant wedi meirw amryw flynyddau o flaen y fam - y cyntaf yn 1871. Daeth y teulu i ardal Bangor yn 1858, a gwnaethant eu cartref ar lanerch o dir oedd y pryd hwnw heb ei arloesi a'i ddiwyllio; ond y mae heddyw, trwy lafur a diwydrwydd y fam a'r plant yn benaf, wedi dyfod yn un o'r ffermydd goreu yn y gymydogaeth.

Yr oedd Mrs. Jones yn un a berchid yn fawr gan bawb o'i chydnabod, oherwydd ei bod yn gymeriad cywir, gonest, unplyg a dirodres, heb absenu a'i thafod na gwneuthur drwg i'w chymydog. Cafodd hithau lawer o brofion ei bod wedi ei geni i flinder, ac i weled aml a blin gystuddiau, yn enwedig yn ei blynyddau diweddaf. Yr oedd ei phlant yn ieuanc a'i hamgylchiadau yn gydmarol isel pan gollodd ei phriod, ond trwy ofal a diwydrwydd daethant yn mlaen yn rhagorol, a llwyddasant i gael cartref clyd a llawn.

Yr oedd y chwaer ymadawedig yn proffesu enw yr Arglwydd Iesu Grist, a bu yn aelod eglwysig diargyhoedd gyda'r T. C. o'r flwyddyn 1863 hyd ei bedd.

Claddwyd yr hyn oedd farwol o honi mewn modd parchus yn mynwent Bangor, a chyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. John J. Vaughan (B.) a'r ysgrifenydd. Ewyllys da preswylydd y berth a fyddo yn eiddo i'w phlant.

Y Drych ~ Mawrth 27ain 1890.