MRS. ELLEN JONES. OTTOWA, LE SUEUR COUNTY, MINNESOTA.

Gorphenaf 16eg, 1890, yn Ottawa, Le Sueur County, Minnesota, yn 70 mlwydd oed, Ellen, anwyl briod William Jones, gynt o Ffestiniog, a merch i John ac Ann Owen, Byrllysg, Dyffryn Ardudwy, Swydd Feirionydd.

Yn 1885, ymfudasant i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn yr ardal uchod. Yr oedd Mrs. Jones wedi bod yn dyoddef am flynyddau yn yr Hen Wlad oddiwrth ddolur ar ei choes; ond trwy fedr meddygol wedi cael iachad fel ag i allu dylyn ei gorchwylion arferol. Wedi dyfod yma torodd allan drachefn, ac er pob gallu meddygol profodd o'r diwedd yn angeuol. Yr oedd yn aelod gyda y T. C., ac yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun, fel yr ydym yn credu. Aeth trwy lawer o brofedigaethau drwy gladdu lluaws o blant a chystudd trwm; ond yn y diwedd trefnwyd iddi fynediad helaeth i mewn i wlad na ddywed neb o'i phreswlwyr claf ydwyf.

Gadawodd briod a merch yn y wlad hon a dau fab yn Nghymru i alaru ar ei hol. Gorphenaf 18fed, ymgasglodd yr ardalwyr yn gyffredinol i ddangos eu cydymdeimlad a'i pherthynasau yn eu galar. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y tŷ, yn addoldy Elim ac wrth y bedd. Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
W. A. JONES.

Y Drych ~ Awst 14eg 1890.