MRS. GRACE JONES. BRADDOCK, PENNSYLVANIA.

Ionawr 21ain, 1890, Mrs. Grace Jones, priod Gruffydd Jonos, yn ei hanedd ar heol lleg, Braddock, Pennsylvania, wedi tri diwruod o gystudd. Wythnos cyn ei hangeu yr oedd mor iach a bywiog ag erioed, ond gafaelodd y clefyd estronol y grip ynddi, a chyda buandra aughyffredin newidiodd er gwaeth, trodd yn glwyf yr ysgyfaint arni, ac mewn tridiau yr oedd wedi gadael y byd. Yr oedd ei marwolaeth yn ergyd trwm a disymwth iawn i'r teulu. Bu farw yn esmwyth wedi ffarwello â'r teulu.

Ganwyd Mrs. Jones yn Mangor, Gogledd Cymru, a threuliodd lawer o'i hoes yno. Tua 12 i 20 mlynedd yn ôl symudodd i Lanfairfechan, a gelwid ei chartref yno yn Bee Hive. Yr oeddynt yn dra adnabyddus yn y cylchoedd. Tua phedair blynedd yn ôl daeth Gruffydd Jones i'r wlad hon, ac ymsefydlodd yn Braddock. Yn y cyfamser symudodd Mrs. Jones a'r teulu i Lerpwl. Oddiyno ymfudodd hi a rhan o'r teulu a chyraeddodd Braddock, Mehefin, blwyddyn i'r diweddaf, gan adael y ddwy ferch a mab ar ei hol. Yr oedd yn byw y ddwy ochr i'r mor; oblegid yr oedd yn hiraethu llawer am y ddwy eneth a'r "hogyn bach," fel y galwai y mab draw. Cyraeddodd yr helyw dymunol o'r teulu ati o'r diwedd, ac yr oedd yn teimlo yn ddedwydd o'u cymdeithas. Daeth Lizzie ac Elin yma tua phedwar mis yn ôl, mewn ffordd o ddweyd, i gladdedigaeth y fam a ddysgwyliasai mor dyner am eu dyfodiad.

Cafodd bob cymorth a allai y gwragedd a'r meddyg roi iddi. a gweiniwyd arni a gofalwyd am dani yn ffyddlon hyd yr eithaf; ond symudwyd hi o'n plith wedi pob ymdrech. Yr oedd yn ddynes barchus hawddgar a chymdeithasgar; yn Gymraes drwyadl a chenedlgarol, yn hoff iawn o'r iaith Gymraeg ac yn ymhyfrydu yn nghymdeithas y Cymry. Yr oedd yn dyheu llawer am gwrdd Cymraeg; ac yn ffyddlon aughyffredin yn y dosbarth Cymraeg yn nghapel yr Annibynwyr Seisnig.

Daearwyd yr hyn oedd farwol ohoni y dydd Mercher canlynol yn y Russell Cemetery, a gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Young, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig. Daeth torf o Gymry a chymydogion i dalu y parch olaf iddi, ac amlygwyd cydymdeimlad dwfn a'r teulu galarus. Trist iawn oedd yr amgylchiad, colli dynes mor hawddgar o'n plith mor fuan, a chaled oedd yr ergyd i'w phriod ac i'r plant. Y mae iddi frawd, os wyf yn cofio yn iawn, yn Wisconsin. "Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu."

Y Drych ~ Chwefror 13eg 1890.