MR. JOHN JONES. TY CANOL, WILLIAMSBURG, IOWA.

Ebrill 8fed, 1890, yn 75 mlwydd oed, John Jones, Ty Canol, Williamsburg, Iowa, ar ôl cystudd maith a nychlyd, ac yn mhen ychydig ddyddiau ar ôl marw ei fab-yn-nghyfralth, J. W. Evans.

Yr oedd yn ffyddlon gyda chrefydd pan yn iach, ac ar ôl cael ei gaethiwo i'w dŷ ei hoff bleser oedd siarad am yr achos ac am bregethwyr a dylanwadau yr amser gynt yn Nghymru.

Ganwyd ef yn Amnodd Wen, ger y Bala; ond aeth i Ffestiniog pan yn dra ieuanc, ac yno hefyd y priododd Miss Ann Lewis, Cae Rhys, Trawsfynydd.

Yn mhen 15 mlynedd ar ôl hyny, ymfudasant i Fair Haven, Vermont, lle buont bum mlynedd cyn symud i Williamsburg, Iowa. Yr oedd yr ymadawedlg yn gymeriad dyddan, bywiog a charedig. Proffesai grefydd er yn ieuanc, a pharhaodd hyd ei ddiwedd. Er fod marw, a chael ei orchfygu gan angeu un waith yn peri braw iddo, eto addefai nad oedd arno ofn y canlyniadau. Ni byddai un amser yn cael profiadau uchel, eto byddai yn ymwneyd yn gyson a ffyddlon gyda'r ordinhadau, a phan ddaeth y diwedd yr oedd yn dymuno marw yn hytrach na byw. "Ni frysia yr hwn a gredo."

Gadawodd ar ei ôl un mab a dwy ferch, set John Jones, ieu. New Hampton, Iowa; Mrs. R. W. Roberts, Blue Springs, Nebraska, a Mrs. Evans, gweddw y dywededig John W. Evans. Yr hwn a'i cynaliodd hwy eu dau i fynd trwy angeu, a gynalio ac a ddyddano y perthynasau oll, ac a fyddo yn arweinydd a help i'r ferch a'i phlant bach yn ei phrofedigaeth lem iawn o golli ei hanwyl briod a'i thad o fewn yr un dyddiau.

Y Drych ~ Mai 8fed 1890.