MR. JOHN E. JONES. LIME SPRING, IOWA.

Mawrth 18fed, 1890, yn 17 mlwydd oed, John E. Jones. Lime Spring, Iowa, o'r darfodedigaeth.

Genedigol ydoedd o Roewen, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon ddwy flynedd a haner yn ôl, yn facbgen cryf a golwg iach arno. Dygwyd ef i fyny gyda chrefydd, ac yn yr Hen Wlad dysgodd lawer o'r Beibi allan; ond aeth i wasanaethu at y Saeson ac anghofiodd y cwbl. Ni bu yn wael ond dau fis heb weithio.

Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn mynwent Foreston. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. R. Isaac a W. W. Davies.

Y Drych ~ Mai 15fed 1890.