MR. JOHN P. JONES. COETYNO, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mehefin 27ain, 1890, yn 73 mlwydd oed, John P. Jones (Coetyno), Columbus, Wisconsin. Yr oedd yn gwaelu er's amser, a dyoddefodd lawer yn ystod chwech wythnos olaf ei oes. Ei brif anhwyldeb oedd Bright's Disease.Ganwyd ef ger Capel Ucha, Clynnog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1845, a threuliodd weddill ei fywyd yn Columbus. Yr oedd ei briod wedi ei ragflaenu er's rhai blynyddau. Gadawodd o berthynasau ar ei ôl ddwy chwaer a thri brawd yn Nghymru ac un brawd yn Columbus, sef Evan P. Jones, gyda'r hwn y cartrefai er pan gollodd Mrs. Jones.
Claddwyd ef ger capel Bethel. Yr oedd yn ddyn geirwir, gonest, llawn o ffraethineb diniwed, ac yn barchus iawn gan bawb yn yr ardal.