MR. JOHN T. JONES. LIME SPRING, HOWARD COUNTY, IOWA.
Tachwedd 22ain, 1890, yn Lime Spring, Howard County, Iowa, yn 32 mlwydd oed, John T. Jones.Bu yn wael trwy yr haf, ond er hyny yn dylyn ei waith hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Brodor ydoedd o Bethesda, mab i Thomas Jones Cilfodan Terrace.
Daeth ef a Mrs. Jones i'r wlad hon dair blynedd i'r haf diweddaf. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd; yr oedd yn aelod yn nghapel Salem, Carneddi, ac yr oedd yn aelod ffyddion gyda ni yn Foreston. Crefyddwr dystaw ydoedd, ond er hyny meddyliem fod "gwreiddyn y mater" ganddo; yr oedd yn gwybod pa le i droi pan ddaeth yn gyfyng arno.
Dydd Llun canlynol claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn mynwent Foreston. Gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. O. R. Morris, Bristol Grove. Y Sabboth traddodwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. W. W. Davies, oddiar y geiriau diweddaf bron a ddywedodd Mr. Jones, set "Am hyny byddwch chwithau barod," a.y. Cydymdeimla pawb â Mrs. Jones yn ei phrofodigaeth; hefyd â brawd iddo, yr hwn a ddaeth i'r wlad hon ychydig fisoedd yn ô1. Gwyddant pa le i droi yn eu trallod.