MRS. LAURA JONES. 918 VILLA STREET, RACINE, WISCONSIN.
Ebrill 19eg, 1890, yn 61 mlwydd oed, Mrs. Laura. Jones, gwraig Capt. Hugh W. Jones, 918 Villa Street, Racine, Wisconsin, wedi bod yn nychu am tua saith mlynedd gan ulcuraticm of the stomach.Ganwyd hi yn Rhoswerthydd, Nanhoron, Arfon. Ymfudodd i America gyda'i thad yn 1852, gan ymsefydlu yn Remsen, New, York. Yr oedd wedi claddu ei mam yn Nghymru, a bu farw ei thad yn fuan ar ôl dod drosodd.
Yn Ebrill, 1858, symudodd o Rome i Racine, lle y priododd Capten Jones yn 1860, i dri phlentyn yr hwn o'i wraig gyntaf y bu megys mam dyner. Nodweddid hi gan ysbryd hynaws a charedig; ac yr oedd idd lu o gyfeillion parod i weini aml yn ei chystudd, ac i ddangos eu parch iddi yn ei hangladd, Ebrill 22ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. E. Williams (T. C.), Slatington, Pennsylvania, W. Griffith, Milwaukee, a'r ysgrifenydd. Mae ei brawd John yn byw yn Liverpool, ac yn aelod o gapel Dr. Thomas, a'i chwaer Ann yn Nghaernarfon. Bu yn aelod o eglwys A. Racine am 32 o flynyddau.
Y Drych ~ Mai 8fed 1890.
MRS. LAURA JONES. 918 VILLA STREET, RACINE, WISCONSIN.
Boreu Sadwrn, Ebrill 19eg, yn Racine, Wisconsin, bu farw y wraig dda Mrs. Laura Jones, priod Cabden Hugh W.Jones, yn 61 mlwydd oed. Dechreuodd ei hiechyd waelu ryw saith mlynedd yn ôl, ac i'r fath raddau yn ystod y tair blynedd diweddaf fel ag i'w lluddias i fyned o'r tŷ am y rhan fwyaf o'r amser. Cyfyngwyd hi yn mron yn hollol i'w gwely er mis Ionawr diweddaf, ac o'r adeg hono hyd Ebrill 19eg cafodd gystudd caled iawn, eto dyoddefodd yr oll yn dawel a dirwgnach.Ganwyd Mrs. Jones mewn lle o'r enw Rhoswerthydd, Nanhoron, swydd Arfon, Gogledd Cymru o ba le y symudodd ei rhieni wedi hyny i; Dwllyclawdd, Bwlchtocyn, ger Abersoch, Yn nghapel yr Annibynwyr yn Mwlchtocyn yr arferai ei rhieni Thomas a Mary Jones, addoli, ac mor bell ag y gwyddys yno ymunodd eu merch Laura â chrefydd gynfaf.
Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i thad yn y flwyddyn 1852, ac yn Remsen New York yr ymddengys iddynt ymsefydlu ar eu dyfod i'r wlad. Yr oedd Mrs. Jones wedi claddu ei mam cyn gadael Cymru, ac nid hir wedi dyfod i'r America y bu cyn claddu ei thad drachefn, am yr hwn y gofalodd yn dyner hyd y diwedd, ac y bu yn hynod garedig.yn ei gystudd.
Da oedd ganddi feddwl am hyny yn ei horiau diweddaf a dymunai ar i Mary ei merch hithau gymeryd gofal o'i thad.
Wedi treulio rhyw chwe' mlynedd mewn gwahanol fanau yn y dwyrain, daeth Mrs. Jones o Rome, Oneida County, i Racine, Wisconsin, yn Ebrill 1858, priododd Cadben Hugh W. Jones, 918 Villa Street, yn 1860, yr hwn oedd wedi colli ei wraig gyntaf ddwy flynedd cyn hyny, a chanddo dri o blant bychain heb eu magu ar ei hol i ba rai y bu hi yn fam dda, a pharchent hwythau hi fel y cyfryw hyd y diwedd.
Nodweddid hi gan ysbryd hynaws a charedig iawn a dywedai un a'i hadwaenai yn dda pan yn ieuanc yn yr Hen Wlad; ddydd ei hangladd, ei fod yn meddwl yn sicr nad oedd ganddi yr un gelyn yno,- a'i bod wedi dyfod i'r wlad hon â chymeriad heb ei lychwino erioed. Y mae yn hyfryd genym feddwl mai yr un peth ydyw tystiolaeth yr rhai a'i hadwaenai yma befyd. Enillodd lawer o gyfeillion yn Racine, pa rai oeddynt barod i wneuthur iddi yn ei chystudd yr oll yn eu gallu.
Ond profodd eu holl ymdrechion hwy a'u perthynasau, yn ogystal a'r meddyg, yn annigonoì i gadw angeu draw yn hwy, oblegid bu farw yr adeg a nodwyd o'r hyn a elwir ulceration of the stomach.
Cymerodd yr angladd le dydd Mawrth Ebrill yr 22ain, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i dŷ ei hir gartref. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. R, E. Williams. (M. C ) Slatington, Pennsylvania, W. Griffiths, (A) Milwaukee, a'r ysgrifenydd. Y mnae brawd a chwaer i'r ymadawedig yn byw yn yr Hen Wlad, ei chwaer Ann yn Nghaernarfon, a'i brawd John yn Liverpool, ac yn aelod yn nghapel Dr. J. Thomas.
Cydymdeimlir yn fawr a'r têulu yn eu galar. Nodded y nef fyddo arnynt oll; a llanwed yr Arglwydd y bwlch sydd wedi ei wneyd yn yr eglwys Anhibynol yn mha un y bu yr ymadawedig yn aelod am 32 mlynedd.