MR. LEWIS C. JONES. ARVON, BUCKINGHAM COUNTY, VIRGINIA.

Medi 2ail, 1890, wedi tri diwrnod o gystudd caled, yr hoffus ddyn ieuanc Lewis C Jones, Arvon, Buckingham County, Virginia, yn 22 mlwydd oed.

Mab ydoedd i Hugh Jones, Penygraig, Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn ngwanwyn 1888, a bu yn gweithio am ysbaid yn llech chwarelau Fair Haven, Vermont; bu hefyd am amser byr yn Utica, New York, ond yn mis Ionawr diweddaf daeth i'r lle hwn; ac erbyn hyn yr oedd wedi enill iddo ei hun ffafr ac ymddiriedaeth pawb o'i gydnabyddion. Yr oedd yn perthyn iddo fel cymeriad lawer o elfenau gwerthfawr a rhinweddol fel dyn yn ogystal ag fel Cristion. Ymgasglodd lluaws mawr iawn o wahanol genedloedd i dalu y gymwynas ddiweddaf iddo dydd Iau, Medi 4ydd.

Yr oedd yn aelod o gymdelthas y Temlwyr Da, ac fe ymgymerodd yr urdd dda hono a'r gwasanaeth wrth y tŷ, gan ymffurfio yn orymdaith hardd i ddylyn y corff at y capel, lle siaradwyd ychydig yn ddoeth a phwrpasol gan Mr. Lewis Morgan.

Ar lan y bedd aeth y Temlwyr Da trwy eu ffurf-wasanaeth angladdol, ac yna fe ganwyd hen emyn Cymreig. Ymadawyd mewn teimladau dwys a galarus.

Y Drych ~ Medi 25ain 1890.