MARGARET ELLIS JONES. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Awst 2ail, 1890 yn 78 mlwydd oed, bu farw Mrs. Margaret Jones, gwraig Nicholas Jones. Yr oedd yn ferch i Ellis Roberts a Gwen ei briod. Daethant i'r wlad hon o Ffestiniog, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Y mae ganddi ddau frawd a dwy chwaer yn fyw. Enwau ei brodyr yw John a Robert Ellis, Peniel, Ffestiniog. Bu Nicholas Jones a'i briod yn byw am flynyddau yn ninas New York, a rhai blynyddau ar ol hyny yn Utica, ac y maent wedi bod yn Cambria er 1874. Daethant i'r wlad hon yn 1843.

Buont yn briod 52 o flynyddau. Yr oedd ein chwaer wedi ymuno a chrefydd cyn dod o Gymru, ac yr oedd yn aelod hardd gyda y T.C. pan fu farw. Yr oedd yn ddynes garedig a pharchus, a phob amser yn hynod o ffraeth a witty.

Mae ein hanwyl frawd Nicholas Jones wedi cael ei adael ei hunan; bydded Duw yn dda wrtho. Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parchn. J. Hammond, John S. Thomas, o Jackson, Ohio, a'r ysgrifenydd.
R. H. Evans.

Y Drych ~ Awst 14eg, 1890.