MRS. MARY G. JONES. CHICAGO, ILLINOIS.

Medi 29ain, 1890, yn Chicago, Illinois, yn ei 77 mlwydd oed, Mrs. Mary G. Jones, yr hon a anwyd yn Mur Cristo yn Mhlwyf Llangybi, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, a rhyw 51 mlynedd yn ôl priododd â Mr. Griffith W. Jones, Abererch, yn yr un Sir.

Bu iddynt ddeg o blant, ac y mae pump o honynt yn fyw heddyw - dau fab a thair merch; mae y ddau fab yn byw yn Williamsburgh, Iowa; ac un o'i merched yw gwraig Mr. Fred.L.Jones, Sprague, Washington; ac un yn byw yn Milwaukee; a'r llall, Miss M. G. Jones, sydd yn byw yma, gyda'r hon yr oedd ei mam yn cartrefu, ac yn gysurus ei hamgylchiadau.

Yn y flwyddyn 1849 ymfudodd y teulu i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn nghymydogaeth Columbus, Wisconsin, ac yno, flynyddoedd yn ôl, y claddodd ei phriod; a rhyw ddeng mlynedd yn ôl symudodd at ei merch i'r ddinas hon, a gyda eu gilydd y buont yn gysurus hyd ddydd ei marwolaeth.

Cafodd Mrs. Jones iechyd da ar hyd ei hoes hyd ddechreu mis Ebrill diweddaf, a gwanhau a wnaeth yn raddol, ac fel arfer yn hanes dyn, angeu orchfygodd, ac ehedodd ei hysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes hi, a hyny mewn tangnefedd heddychol; a'r holl blant, pa rai oedd yn hoff iawn o'u mam, yn ei hamgylchynu.

Yr oedd yn ffyddlawn iawn gyda ei chrefydd, a chydwybodol mewn darllen ei Beibl, a myfyrio ynddo oedd ei hyfrydwch penaf. Ac yn marn a theimlad ei brodyr a'i chwiorydd yn eglwys y T. C, lle yr ydoedd yn aelod ffyddlawn er pan yn ieuanc iawn, yr oedd yn wraig dduwiol, ac wedi rhoddi esiampl dda yn ei bywyd i'r holl deulu.

Noson cyn cychwyn a'r corph i'w gladdu yn mynwent Bethel, gwnaed sylwadau gan ei gweinidog oddiar Salm 116 : 15, "Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef," dangoswyd cydymdeimlad dwys a'r teulu ar yr amgylchiad galarus; a boreu Hydref 1af, aed a'r corph i'r orsaf am Columbia, Wisconsin, ac yno yr oedd llu o'i hen gyfeillion yn ei chyfaríod, a gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. Richard Griffiths, gan adael ei chorph yn nhy ei hir gartref. Yr Arglwydd yn ei ras a gynalio yr holl berthynasau "Fel na thristaont fel rhai heb obaith;" a'r grefydd a gynaliodd eu mam yn y glyn a'u cynalio hwythau hefyd i wynebu angeu yn ddigryn fel eu mam, oblegid gwas ydoedd i'w chyrchu adref at yr Iesu, ei Gwaredwr.
D. HARRIES.

Y Drych ~ Hydref 23ain 1890.