MRS. MARY JONES. ROCHESTER, NEW YORK.
Mawrth 4ydd, 1890, yn 25 mlwydd oed, Mary, priod John W. Jones, Rochester, New York, a chwaer William W. Roberts a Mrs. Hugh Williams, Utica.Daeth i'r wlad hon gyda'i brawd o Lanberis, ychydig flynyddau yn ôl, ac yn Utica yr oedd yn byw cyn symud i Rochester ar ôl priodi.
Dygwyd ei chorff i'w gladdu yn Forest Hill Cemetery, Utica, y dydd Gwener canlynol, y Parch. Robert Williams, M. A., yn gweinyddu.