MR. RICHARD H. JONES. RUSSELL GULCH, COLORADO.
RUSSELL GULCH, COLORADO, Medi 8fed. Drwg genym gofnodi marwolaeth Richard H. Jones, dyn sengl tua 37 mlwydd oed, genedigol o Waenfawr, Gogledd Cymru, yr hyn gymerodd le ar yr ail ac a gladdwyd ar y pedwerydd yn mynwent y lle, y Parch. David Jones o Gyfrinfa y Coedwigwyr yn gweinyddu.Cafodd angladd hynod o barchus, trwy ei fod yn un a gerid gan bawb. Cymerwyd ef yn glaf o'r Mountain Fever, yr hwn drodd yn neuralgia ar ei galon.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1879, a bu am ysbaid yn Idaho Spring, Colorado, wedi hyny yn San Juan, ac oddiyno i'r Hen Wlad i ymweled a'i berthynasau.
Daeth yn ei ôl ac ymwelodd ag Idaho, Washington, Montana a California, gan ddychwelyd i'r Dalaeth hon yn 1887, ac i'r lle hwn tua dwy flynedd yn ôl, lle y bu hyd ei farwolaeth.
Mae i'r ymadawedig ddau frawd a chwaer yn yr Hen Wlad. Cydymdeimlir yn fawr a hwy yn eu profedigaeth.