MR. RICHARD HUGH JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Mawrth 19eg, 1890, ar ôl misoedd o gystudd poenus, R. H. Jones, Minneapolis, Minnesota.Ganwyd ef yn Penygroes, Llanllyfui, Caernarfon, Hydref, 1846. Deuddeg mlynedd ar hugain yn ôl daeth ef gyda ei dad a'i fam i'r wlad hon, a sefydlasant ar fferm yn Wisconsin. Am amryw flynyddau bu yr ymadawedig yn dal cysylltiad â masnach peirianau - yn Cambridge gyntaf, ac wedi hyny yn Berlin, Wisconsin.
Yn 1871 ymsefydlodd yn Minneapolis, fel prif oruchwyliwr C. Aullman and Co., ac wedi hyny fel prif ysgrifenydd yn y Minneapolis Harvester Works, Yn 1881, o herwydd afiecbyd, aeth dros y mor i'r cyfandir, a'r afiechyd a ymosododd arno y pryd hwnw a brofodd yn angeuol iddo.
Y mae iddo frawd o'r enw O. W. Jones mewn masnach beirianol yn Minneapolis, a brawd arall, W. W. Jones, yn Chicago. Er nad oedd Mr. Jones yn aelod gyda'r Cymry, eto bu yn dda at yr achos Cymreig bob amser trwy ei roddion pan y buasid yn galw arno am gymorth.
Claddwyd ef ddydd Sadwrn, y Parch. Dr. J. P. Woodbury yn gweinyddu.
BRYTHON.