MR. WILLIAM G. JONES. 135 STEUBEN STREET, UTICA, NEW YORK.
Awst 12fed, 1890, yn 72 mlwydd oed, William G. Jones, 135 Steuben Street, Utica, New York.Mab ydoedd i Griffith a Jane Jones, o'r Hendre, ger Llanuwchllyn, Sir Feirionydd. Ganwyd ef Hydref 24ain, 1817. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn nghapel y Pandy, ac yno y dygent eu plant gyda hwy i addoli. Yr oedd Griffith Jones wedi ei eni a'i fagu yn yr Hendre; ond un o Sir Ddinbych ydoedd Jane Jones. Yr oedd hi yn grefyddol iawn o'i hieuenctid, a pharhaodd felly trwy ei hoes. Bu dan gryn erledigaeth am ei chrefydd yn more ei hoes; ymosododd un o'r erlidwyr arni, ond gan ei bod yn ferch gref, fywiog, diangodd heb lawer o niwed.
Pan oedd William tua naw oed, anfonodd y Parch. William Williams o'r Wern ei gyhoeddiad i gapel yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Yr oedd awydd ar bawb trwy y gymydogaeth am glywed Mr. Williams, a siaredid llawer am dano cyn iddo ddod. Llenwid calon William ag awydd am ei weled a'i glywed. Yr oedd teulu yr Hendre am fyned i'w wrando, ond barnent fod William a rhai o'r plant eraill yn rhy fychain i fyned i'r fath dorf, felly gadawyd hwy gartref. Eithr wedi i'r teulu gychwyn rhedodd William nerth traed tua'r capel, a chyraeddodd yno erbyn dechreu y bregeth.
Aeth yn ddystaw i'r gallery, fel na welodd neb o'r teulu ef ond un chwaer; eithr gwelodd a chlywodd efe Williams o'r Wern, ac er ei fod mor ieuanc glynodd rhanau o'r bregeth yn ei feddwl trwy ei oes, a byddai yn adrodd ambell ddarn o honi yn ei flynyddoedd diweddaf. Parodd y bregeth hono iddo ymserchu yn nghapel Llanuwchllyn, fel, er fod ganddo filldiroedd o ffordd i'w teithio, a bod ei rieni a hen aelodau y Pandy yn anfoddlon iawn, aeth yno i wrando yn gyson. Yn mhen amser derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. Michael Jones, am yr hwn yr oedd yn meddwl ac yn siarad bob amser yn uchel iawn.
Bu yno hefyd dan welnldogaeth Scorpion, i'r hwn yr oedd ganddo barch mawr. Yr oedd yn hoff iawn o'r Parch. M. D. Jones, ond yr oedd ei dad a Scorpion ar y blaen; o ran hyny yr oeddent raddau lawer yn mlaen ar bawb y daeth i gyffyrddiad â hwy. Yr oedd hyny fe ddichon i raddau am ei fod wedi ymgydnabyddu â hwy yn moreu ddydd ei oes a dysgu llawer ganddynt. Yr oedd fel pobl Llanuwchllyn yn gyffredin, yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyrau. Yr oedd ei gof hefyd yn afaelgar iawn. Byddai yn bleser ei glywed yn defnyddio ymadroddion y Belbl yn ei weddi. Yr oedd ei lais yn doddedig a'i barabl yn glir; felly yr oedd ei weddi yn swynol a gafaelgar iawn.
Priododd â Miss Hannah, merch Thomas Hughes, Glanyrafon, o'r un plwyf. Yn 1851, ymfudodd i America, gan adael ei deulu, sef gwraig a mab a merch yn yr Hendre, dan ofal ei frawd John. Bu ei wraig farw yn fuan, a daeth y plant drosodd gyda David Richards, Marcy, pan oedd yn dychwelyd o'i ymweliad a'r Hen Wlad. Treuliodd William Jones amryw flynyddoedd yn Gang Mills.
Yn 1857, priododd Miss Gaenor Williams, o Leyn, Sir Gaernarfon, o'r hon y cafodd bump o blant, dau o'r rhai sydd eto yn fyw. Gofalodd Mrs. Jones yn dyner iawn am dano drwy holl flynyddoedd ei gystudd. Gwanaidd oedd ei iechyd er's blynyddau lawer; ond tua deng mlynedd yn ôl rhwygwyd ei goes gan y tren mor ddrwg fel y mynai y meddygon ei thori. Arbedwyd ef rhag hyny, ond ni chryfhaodd byth ar ôl hyny fel ag i weithio fel cynt.
Bu yn y ty y rhan fwyaf o'r pedair blynedd diweddaf, yn graddol ddihoeni a gwanhau. Gwyddai ei fod yn myned o ddydd i ddydd, ond yr oedd yn gwbl dawel a diofn. Darllenai lawer iawn ar y Beibl, a threuliai lawer iawn o'i amser mewn gweddi. Byddai yn tori allan i weddio yn y nos. Bu yn aelod ffyddlon o eglwys Bethesda tra parhaodd ei nerth; eithr yr oedd yn rhy wan i ddod i'r capel ond anaml iawn er's blynyddau. Yr oedd yn hoff iawn o glywed pregeth dda, ac yn byw arni am amser ar ôl hyny. Yr oedd yn gweddio llawer dros y gweinidog a'r eglwys, wedi iddo fethu dod i'r moddion yn gystal a chyn hyny; ond y mae wedi rhoddi fyny weddio a myned adref i ganu, mewn gwlad lle nad oes nychdod, gwendid na phoen.
Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ôl, sef Griffith Jones (o'r wraig gyntaf). Gang Mills; Edward W. Jones a Jennie Jones, o Utica. Bu y ferch hynaf farw amryw flynyddau yn ôl yn Marcy, yn fuan wedi iddi briodi. Gwrandawed yr Arglwydd ei aml weddiau dros ei weddw a'r amddifaid, yn gystal a thros eraill y byddai yn mynych gofio am danynt.
Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn Forest Hill Cemetery, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd.
R. GWESYN JONES.