MR. WILLIAM O. JONES. CAMBRIA, WISCONSIN.

Gorphenaf 13eg, 1890, yn Cambria, Wisconsin, yn lled ddisymwth o ryw anhwyldeb yn yr ymysgaroedd, yn 65 mlwydd oed, William O. Jones, mab i Owen ac Ann Junes, Wig Fawr, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daetb i'r wlad hon o Lygwi, Sir Fon, yn 1849, ac ymsefydlodd ar fferm ddwy filltir o Cambria, a galwodd hi Penrhos. Ryw faint gyda blwyddyn yn ôl gadawodd ei fferm a daeth i fyw i Cambria.

Priododd gyda Miss Ann Jones, Tynycoed, Hydref 3ydd, 1855. Ymunodd ag eglwys Crist gyda y Wesleyald yn Cambria yn 1859; ond yn awr er's rhai blynyddau yr oedd yn aelod hardd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn cywir a didwyll iawn, ac yn un oedd yn talu llawer o barch i air Duw ac ordinhadau crefydd, yn ffyddlawn yn nghyflawniad dyledswyddau, yn athraw da yn yr Ysgol Sabbothol ac yn wrandawr cyson, heb fod yn euog o esgeuluso moddion wythnosol. Yr oedd yn casau ffug a rhagrith, ac ni chawsom ef erioed yn gwisgo dau wyneb, neu yn ceisio seboni neb, fel y mae arfer rhai.

Ni byddai yn siarad ond ychydig, ond yn hynod o gyfeillgar gyda chyfaill. Yr oedd yn gymydog da, yn briod ffyddlawn, yn dad gofalus a thyner ac yn Gristion cywir. Y mae nid yn unig y teulu ond eglwys Cambria wedi cael colled ar ei ôl. Gadawodd weddw hawddgar a chwech o blant parchus i alaru ar ei ôl. Rhodded Duw grefydd dda i bob un o honynt, fel y gallont gyfarfod a'u tad ar ddeheulaw y Barnwr yn y dydd a ddaw.
R. H. EVANS.

Y Drych ~ Gorphenaf 24ain 1890.