MR. EVAN MORRIS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Hydref 17eg, 1890, yn 26 mlwydd oed, Evan Morris, mab Morris ac Elizabeth Morris, Nelson, Madison County, New York.Ganwyd ef yn Bryncrug, Meirionydd. Gogledd Cymru, Mehefin 30ain, 1864.
Ymfudodd ei rieni yn 1869, i ardal Nelson. Yr oedd ei fam yn ferch i John a Margaret Evans, Rhydyronen, ger Bryncrug, a'i dad yn fab i Evan ac Ann Morris, Llanegryn.
Yr oedd yn facbgen ieuanc caredig a bywiog. Daeth adref o'i wasanaeth yn glaf ddwy wythnos cyn ei farwolaeth. Cafodd gystudd trwm o'r spinal meningitis.
Claddwyd ef ar yr 2Ofed. Daeth tort fawr yn nghyd. Gweinyddwyd gan y Parch. B. D. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Jeffrey Evans.
Gadawodd dad a mam, pedwar brawd a dwy chwaer, a lluaws o berthynasau i alaru ar ei ôl. Gobeithlo y bydd yr amgylchiad yma dan fendith y nefoedd i ieuenctyd yr ardal a'r parthynasau oll.