MISS NELLIE MORRIS. NEWPORT, KENTUCKY.

Mehefin 18fed, 1890, yn Newport, Kentucky, yn 23 mlwydd oed. Miss Nellie Morris, merch i Hugh Morris Jones, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon tua thair blynedd yn ôl gyda'i modryb, Mrs. John Prichard, Newport, gyda yr hon y bu yn aros hyd ei marwolaeth. Derbyniodd addysg dda pan yn ieuanc, ac yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn holl bynciau gwladyddol hen wlad ei genedigaeth. Gwylial gyda sel neillduol symudiadau y pleidiau gwladyddol bob amser; ond gyda phethau crefyddol Cymru yr hoffal aros fwyaf.

Yr oedd yn eglur i bawb ei bod wedi ei dwyn i fyny ar aelwyd grefyddol. Ymunodd a phobl yr Arglwydd yn fore, a bu yn ffyddlon i'w hymrwymiad hyd y diwedd. Yr oedd yn aelod parchus o eglwys College Street, Cincinnati, er pan yn y wlad hon, ac yn llafurus gyda'r "Blodwen Mission Band." Yr oedd yn ffyddlawn gyda'i dyledswyddau, ac yn bresenol yn y moddion bob amser mor bell ag yr oedd ei hiechyd yn caniatau.

Er nad oedd wedi bod yn iach er's lawer o amser, daeth y diwedd heb fod neb yn ei ddysgwyl. Bu yn y capel yn gwrando Principal Edwards y Sabboth yr ymwelodd a'n dinas; hefyd, yr oedd yn bresenol yn y reception a roddwyd i'r Dr. nos Lun, ac yn ei hwyliau goreu yn ei groesawu. Tua chanol yr wythnos ganlynol dechreuodd deimlo yn anhwylus, ond nid oedd neb yn meddwl fod perygl, a pharhaodd felly hyd fore dydd Mercher, pryd y cyfnewidiodd ar unwaith, nes y gwelodd ei meddyg a'i chyfeillion fod y diwedd yn cyflym agoshau.

Ymgasglodd amryw o'i chyfeillion o amgylch ei gwely a ffarweliai â hwy yu y modd mwyaf cyfeillgar, gan eu cyngori i fod yn ffyddlawn dros Iesu Grist. Canodd amryw o'i holl emynau, a gofynodd i un o'i chyfeillion weddio gyda hi, am iddi gael nerth i groesi yr afon heb bryder.

Y dydd Gwener canlynol claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent brydferth Spring Grove. Gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. David Jones, D. D., a William M. Rees, o Lane Seminary.

Y Drych ~ Gorphenaf 10fed 1890.