MRS. ELIZABETH LLOYD. WILLIAMSBURG, MAINE, NEW ENGLAND.

Medi 8fed, 1890, yn Williamsburg, Maine, yn 24 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Elizabeth, priod Henry Lloyd.

Gadawodd ar ei hol briod a dau o blant. Merch ydoedd i William a Catherine Brittain, Upper Bangor, Gogledd Cymru.

Ymfudasant i'r wlad hon flwyddyn yn ôl o Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru.

Claddwyd hi y 10fed, yn mynwent Brownville, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. W. C. Curtis.
D. LLOYD.

Y Drych ~ Hydref 9fed 1890.