MR. JOHN PRITCHARD. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ebrill 2ail, 1890, yn y Pennsylvania Infirmary, Norristown, Pennsylvania, John Pritchard, Bangor, Swydd Northampton, ar ôl blwyddyn o gystudd dirdynol, yn 46 mlwydd oed.

Cred y meddygon am ei anhwyldeb ydoedd fod tumor yn tyfu yn ei ben, ac yn aml yn cyffwrdd a'r ymenydd ac yn achosi ffitiau dirdynol a gwallgofrwydd ar amserau.

Daeth i'r wlad hon oddeutu ugain mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd am dymor yn ardal West Bangor, ac yma y priododd. Mab ydoedd i'r parchus caredig a'r adnabyddus deulu, y diweddar William Richard Williams a'i briod, Dolgaregddu, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Claddodd ef a'i brlod yr oll o'u plant, saith mewn nifer, o un i un a'r olaf o honynt, lodes fechan chwe' mlwydd oed, oddeutu dau fis yn ôl.

Dygwyd corff John Pritchard i West Bangor ar y 6ed cyfisol, a chladdwyd ef yn barchus wrth ochr corff ei anwyl blentyn yn mynwent Mount Nebo. Yr oedd tyrfa fawr o'i hen gyfeillion wedi dyfod yn nghyd, a gweinyddwyd gan yr ysgrlfenydd a'r Parch. T. Crawford. Cydymdeimiir yn fawr a'i briod drallodus.
JOHN CADWALADR.

Y Drych ~ Ebrill 24ain 1890.