MR. HUGH PUGH. CINCINNATI OHIO.

Tachwedd 16eg, 1890, yn Cincinnati, Ohio, yn 70 mlwydd, 8 mis a 3 diwrnod oed, Hugh Pugh.

Ganwyd ef Mawrth 13eg, 1820, mewn amaethdy o'r enw Castellhen, Cwm-glan-llafar, Bala, Gogledd Cymru.

Mab ydoedd i Daniel ac Elizabeth Pugh, o'r un lle, a brawd i Mr. John D. Pugh, o McMillan Street, Mount Auburn, Cincinnati.

Pan yn ieuanc anfonwyd Hugh Pugh i Wrexham i'r ysgol at y Parch. John Hughes, wedi hyny o Liverpool, ac yr oedd bob amser yn gyflym gyda'i wersi, a dysgodd lawer o'r Belbl i'w gof. Wedi gorphen ei addysg rhoddwyd ef i ddysgu y fasnach grocery gyda Mr. Giller, Wrexham; yna bu yn edrych ar ôl cangen fasnachdy yn Cefn Mawr, perthynol i'r un gŵr. Oddiyno aeth i Liverpool am rai blynyddoedd a dylynai yr un fasnach, ac yn y cyfamser cyfarfu y diweddar David Jones Red Cross Street, Liverpool, a'r diweddar Uriah Davies, Columbus, Wisconsin, a pharhasant yn gyfeillion calon drwy eu hoes.

Yn ngauaf 1850 ac 1851 ymwelodd ei frawd John a gwlad ei enedigaeth; ac yn nechreu gwanwyn 1851 dychwelodd a'i frawd gydag ef, ac amryw eraill o'r un ardaloedd, yn y llong "Forest Queen."

Ymsefydlodd mewn masnach yn Cincinnati, ar gongl yr heolydd Cutter a Laurel Street, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes.

Priododd gydag un Mary Davies; ganwyd iddynt dri o blant, un mab a dwy ferch; bu farw y mab pan yn ieuanc.

Gadawodd i alaru ar ei ôl weddw a dwy ferch - yr hynaf yn briod gyda Dr. W. E. Lewis, Cincinnati, a'r ieuangaf gartref gyda'i mam; hefyd brawd a chwaer yn Nghymru - Wm. Pugh, Pantglas, Trawsfynydd, a Mrs. Ann Roberts, Maesgwyn, ger Bala, Gogledd Cymru.

Magwyd ef yn yr eglwys; cafodd y gofal mwyaf manwl yn ei ddysgeidiaeth grefyddol, a chadwodd ei aelodaeth yn eglwys y T. C. yn ddifwlch drwy ei oes. Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda'r holl gyfarfodydd crefyddol; hefyd yr oedd yn ddyngarwr, bob amser yn haelionus at achos crefydd, a phob achos teilwng arall.

Gweinyddwyd yn yr angladd, ar y 17eg, gan y gweinidog, y Parch. John Hughes Griffiths (M. C). Dr. Jones (A.) a Dr. B. W. Chldlaw, a daeth lluaws yn nghyd i'r capel i ddangos eu parch i'r ymadawedig a'u cydymdeimlad â'r teulu galarus. Claddwyd ei weddillion yn Spring Grove Cemetery, Cincinnati, Ohio.
JOHN ROBERTS.

Y Drych ~ Rhagfyr 11eg 1890.