MR. RICHARD PUGH. AVON, LIVINGSTON COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 19eg, 1890, yn Avon, Livingston County, New York, yn 84 mlwydd oed, Richard Pugh, ar ôl iddo fod yn dyoddef cystudd trwm am hir amser yn dawel ac amyneddgar.

Ymfudodd ef a'i briod i'r wlad hon dros haner canrif yn ôl o Bryn Crwn, Trawsfynydd, Gogledd Cymru. Yr oedd ei briod wedi marw ddeng mlynedd yn ôl.

Gadawodd bedwar mab ac un ferch; hefyd brawd a chwaer yn yr Hen Wlad. Dydd Llun, yr 21ain, rhoddwyd yr hyn oedd farwol o hono i orphwys yn mynwent East Avon.
F. O. JONES.

Y Drych ~ Mehefin 12fed 1890.