MR. ALFRED R. ROBERTS. CINCINNATI, OHIO.
Mai 22ain, 1890, ar ôl wythnos o gystudd, sef pneumonia, Alfred R. Roberts, Cincinnati, Ohio.Ganwyd ef yn Bethesda, Gogledd Cymru, Hydref 4ydd, 1867. Bu farw ei rieni pan nad oedd ond pur ieuanc, a gofalwyd am dano ef gan ei ewythr Robert Prees, Ysw., Cae Ifan Gymro, Bethesda, tad Dr. Prees, Cambria, Wisconsin. Tra yno yr oedd yn aelod o eglwys y Carneddi. Bu yn freintwas gyda Robert Parry, draper, Bangor; yna symudodd i Wrexham, lle y bu yn gwasanaethu fel assistant am ddwy flynedd. Dychwelodd i Fangor, a bu yn y London House nes daeth i America yn Ebrill, 1887.
Sefydlodd yn Cincinnati, gan wasanaethu yn ystordy y Voque Bros. Dechreuodd yn isel, ond trwy ei onestrwydd, ei ddyfalbarhad a'i allu naturiol dringodd yn ddystaw ond sicr i sefyllfa o ymddiried, ac edrychid arno gan ei feistriaid fel un o'u dynion ieuainc mwyaf ymddiriedol. Yr oedd wedi suddo yn ddwfn i'w serchiadau, fel y profwyd yn ystod ei waeledd yn eu gwaith yn anfon yn ddyddiol i ymholi yn nghylch ei gyflwr, a thrwy anfon eu meddyg teuluol i ymgyngori a'i feddyg ef.
Rhai o'r elfenau amlycaf yn ei gymeriad oeddynt sirioldeb. hawddgarwch, caredigrwydd a ffyddlondeb. Dewisodd grefydd a chymdeithas pobl yr Arglwydd pan yn ieuanc, a pharhaodd yn aelod hardd a ffyddlon o eglwys Dduw hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd ei fywyd cyson, ei ymddyddanion crefyddol a'i gymeriad difrycheulyd yn cario argyhoeddiad trwyadl i fynwes pawb o'i gydnabod ei fod yn Gristion gwirioneddol, yn Israellad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll.
Cafodd ei alw, er nad oedd ond tair ar hugain, i wasanaethu fel un o trustees eglwys College St. Yr oedd wedi ei ail ddewis y Sabboth y cymerwyd ef yn glaf yn Ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol; ond ni chafodd ef gymaint a gwybod am y dewisiad. Gellir dweyd am dano fel am Moses "Iddo fod yn ffyddlawn yn ei holl dŷ megys gwas." Bu yn weitbgar iawn gyda'r achos tra yn Cincinnati, ac yr oedd ei ddyfodiad yma yn gaffaeliad gwirioneddol i'r eglwys.
Dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar. Yr oedd arno chwant gwella a bod o gymorth i'w anwyl chwiorydd, am y rhai y sonial yn aml; ond meddai pan ar ymadael, "Y mae Iesu Grist yn well na chwi i gyd; yr wyf yn gallu gorphwys yn dawel arno." Adroddodd y ddwy adnod flaenaf o'r 46 Psalm, a gofynodd i'r rhai oedd yn bresenol ganu am dano ef. Canwyd "Jesus lover of my soul," "Gwaed y groes sy'n codi fyny," a.y. "Dyna," meddai yn y man, "yr wyf yn clywed gwell canu yn awr," a chyn pen ychydig fynydau cododd ei olygon tua'r nef, ymdaenodd gwen siriol dros ei wyneb a bu farw mewn tawelwch.
Cymerodd ei angladd le y Sabboth canlynol, pryd yr ymgynullodd y dyrfa fwyaf welwyd erioed mewn angladd yn eglwys College St. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. Daniel Evans Jones, yn yr eglwys gan y Parch. Dr Jones yn Gymraeg, ac yn Saesneg gan y Parchn. W. H. Lloyd a D. E. Jones. Yr oedd y banlawr a'r arch wedi eu gorchuddio gan flodau, y rhai a brynwyd gan gynes gyfelllion i harddu a thynereiddio golygfa mor brudd.
Gorwedd ei weddillion yn mynwent brydferth Spring Grove. Ar lan y bedd gweddiwyd gan Mr. Jones, a chanwyd yr hen emyn-
"Bydd myrdd o ryfeddodau
Ar doriad bore wawr," a.y.
Cofied yr Arglwydd am ei ddwy chwaer yn Nghymru sydd erbyn hyn mewn galar.
AMICUS.