MRS. JANE ROBERTS. CAMBRIA WISCONSIN.
Mehefin 5ed, 1890, yn Cambria, Wisconsin, yn 86 mlwydd oed, Mrs. Jane Roberts, gweddw Owen Roberts, a merch i Cadwaladr Andrews ac Ellen Jones, Penyfoel, Penmachno, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth i Cambria o Gymru yn 1847, a bu yn byw yn yr un lle hyd ddydd ei marwolaeth. Bu yn weddw am 24 o flynyddoedd. Yr oedd Mrs. Roberts, Dlasa, fel ei gelwid, yn aelod, gyda y T. C., a gair da iddi gan bawb, a chredwn oll ei bod yn Gristion cywir.
Bu farw o hen ddyddiau, gan ddymuno i'r Arglwydd ei gollwng. Yr oedd ganddi gof rhagorol i allu adrodd hanes y dyddiau gynt. Gadawodd chwech o blant i alaru ar ei hol.
Gweinyddwyd yn y claddedigaetb gan yr ysgrifenydd.
R. H. EVANS.