MARGARET ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gweddw Mr. Owen Roberts, yr hwn a fu am flynyddoedd lawer yn ddiacon ffyddlon a defnyddiol iawn gyda'r Annibynwyr yn Utica, New York.

Merch ydoedd i John a Mary Williams, Cwrt Penal, sir Feirionydd. Ganwyd hi yn y flwddyn 1802. Symndodd i ardal Bryn Crug, lle'r ymunodd â chrefydd gyda'r eglwys Annibynol dan ofal y Parch. H. Lloyd Towyn, pan yn 25 mlwydd oed. Tua'r un amser ymbriododd â Mr. Owen Roberts, yr hwn oedd enedigol o ardal Bryn Crug. Ganwyd iddynt chwech o blant yn Nghymru. Bn farw dau yn bur ieuainc. Daeth Mr. Roberts drosodd i America gan gredu y byddai yn well i'w deulu. Dilynodd Mrs. Roberts ef cyn hir a'i phedwar plentyn. Gwnaethant eu cartref yn nghylchoedd Utica, lle trwy ddiwydrwydd a chynildeb y llwyddasant i ddod yn bur gysurus eu hamgylchiadau yn gystal a magu saith o blant, tri o ba rai a anwyd yn America.

Wedi marwolaeth ei phriod, aeth Mrs. Roberts i fyw gyda'i meroh, priod y Parch. Griffith Jones, Columbus, Ohio. Cafodd gartref cysurus íawn, gan fod yn y fam a'r ferch elfenau lawer a dueddant i wneyd pawb o'u cwmpas yn ddedwydd. Gwnaeth Mr. Jones a'i briod bob peth a fedrent i'w dedwyddo yn y pelldar o'i hen gartref, a chafdd hithau iechyd da i fwynhau a gwerthfawrogi eu caredigrwydd am flynyddau lawer.

Teimlai Mrs. Roberts. dyddordeb mawr yn y capel newydd oedd yr Aunibynwyr yn adeiladu yn Columbus. Dymunai yn fawr gael myned iddo unwaith, yr hyn a gafodd. A«d a hi yno i'r cyfarfod gweddi cyntaf a gynaliwyd yno. Yr oedd yn awyddus iawn am glywed y bregeth gyntaf yn cael ei thraddodi yno, ond darllenodd Mr. Jones ei bregeth iddi yn y ty gartref, felly nid aeth i'r addoldy boreu Sabboth gan ei bod yn teimlo yn bur wael. Amlygai yn aml iawn ddymuniad pryderus am gael cystudd byr, a chael ei chladdu yn y Forest Hill Cemetery, gerllaw Utica. Cafodd y ddau.

Wedí cvstudd byr iawn, bu farw Rhagfyr 3ydd, 1890, yn 8S mlwydd oed. Daeth Mr. a Mrs Jones gvda'r corph i'w chladdu yn ymyl ei phriod a'i phlant yn ol ei dymuniad. Nid oes ond tri o'r plant yn fyw yn bresenol, priod y Parch. G. Jones, Columbus, Ohio, Owen Roberts, Waterville, New York, ac Edward Roberts, New York Mills.

Yr oedd Mrs. Roborts yn un o rai rhagoroI y ddaear. Yr oedd yn drefnus a charedig iawn yn ei thy gartref. Yn ffyddlon, deallus a llawn teimlad yn moddion gras. Yn gwir ddymuno llwyddiant yr eglwys a chysur y gweinidog. Er bod Mr. a Mrs Roberts yn byw tua phedair milldir o Utica yr oeddynt yn nodedig am gadw eu cyd-gynulliad. Os buasent yn absenol y Sabbath yr oedd arwydd amlwg fod rhywun yn y teulu yn glaf. Ymhyfrydai mewn; ymddiddanion crefyddol. Er nad oedd yn uchel iawn ei phrofiad, yr oedd bob amser yn hyderus ac yn llawn o gariad at yr Arglwydd Iesu ynghyd a'i holl saint. Mae wedi myned i dangnefedd. Dymunai yn aml am gael marw am fod y nerth yn boen a blinder. Treuliai y rhan fwyaf o'i hamser i ddarllen y Beibl a llyfr Hymnau Dr. Everett. Pau yn glaf iawn dywedai, Byddaf finau yn iach pan gyreddaf adref." Hunodd yn dawel yn yr Iesu.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror, 1891.