MR. ROBERT ROBERTS. WILLIAMSTOWN, DAUPHIN COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ebrill 25ain, 1890, yn 21 mlwydd oed, Robert Roberts, Williamstown, Dauphin County, Pennsylvania, o'r typhoid fever.

Mab ydoedd i Evan ac Elizabeth Roberts, Llety Tregarth, Caernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon tua 14 mis yn ôl i Iowa, ac oddiyno i Plymouth. Pennsylvania, yna i'r lle hwn saith wythnos yn ôl i'r diwrnod y bu farw.

Claddwyd ef yn barohus Sabboth y 27ain, pryd y daeth tyrfa fawr o Gymry y lle i'r angladd.

Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. S. H. Evans, Lykens. Trefnwyd pob peth gau Horace H. Williams, contractor y siafft lle yr oedd yr ymadawedig yn gweithio, er ei fod yn hollol ddyeithr yn y lle. Yr oedd pawb yn garedig iddo.
THOS. L. DAVIES.

Y Drych ~ Mai 8fed 1890.