MR. WILLIAM J. ROBERTS. RACINE, WISCONSIN.
Hydref 3ydd, 1890, yn Racine, Wisconsin, yn 68 mlwydd oed, William J. Roberts.Cafodd yr ymadawedig ei eni a'i fagu yn mhlwyf Llanrug, ger Caernarfon. Gogledd Cymru. Hanai o deulu cyfrifol. Yr oedd Mrs. Hughes, gweddw yr adnabyddus John Hughes, oriadurwr Caernarfon, a mam-yn-nghyfraith Dr. Herber Evans yn chwaer iddo.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1842. Treuliodd 13 mlynedd cyntaf o'i fywyd yma yn nghymydogaeth Utica.
Pan yno priododd â Mrs. Margaret Williams, merch i Thomas Williams, Foundry, Llangefni, Môn. Ganwyd iddynt dair o ferched, sef Mrs Cad. O. D. Jones, o'r ddinas hon; Mrs. Richard Owens, masnachydd cyfrifol a llwyddianus yn Chicago; ac y mae y drydedd yn trigianu yn Llanghefni, ac mewn amgylchiadau cysurus.
Daethai Mr. Roberts a'i deulu i fyw i'r dref hon yn 1858, gan barhau i ddylyn ei alwedigaeth fel asiedydd ac adeiladydd. Cyfrifid ef yn gelfyddydwr medrus. Pymtheg mlynedd i'r trydydd o Orphenaf diweddaf bu farw ei briod, yr hon ydoedd yn meddu cymeriad a llawer o ragoriaethau ynddo. Cafodd ef a'r plant golled ddwys yn ei hymadawiad, a diau i'r amgylchiad effeithio arno ef mewn mwy nag un ystyr am y gweddill o'i oes.
Yr oedd yn un o synwyr cryf a chraffder eang, a pherchid ef fel cymydog caredig a chymwynasgar. Yr oedd yn y blynyddoedd diweddar wedi myned yn llesg a diallu.
Claddwyd ef yn meddrod y teulu. Gweinyddwyd yr achlysur gan y Parch. Thomas Evans. Teilwng yw hysbysu fod Mr. a Mrs. Owens. Chicago, wedi ymddwyn yn garedig ac anrhydeddus ato yn misoedd olaf ei fywyd ac mewn cysylltiad a'i gladdedigaeth.