MR. WILLIAM THOMAS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Mehefin 12fed, 1890, yn nhy ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Thomas G. Williams, West Bangor, Pennsylvania, yn 71 mlwydd oed, William Thomas, y Ffarm, fel yr adnabyddid yma.

Yr oedd yn un o hen sefydlwyr yr ardal hon. Ychydig sydd yma welodd West Bangor heb William Thomas. Brodor o Beddgelert ydoedd. Yr oedd wedi claddu ei briod er's 27 mlynedd. Gadawodd wyth o blant ar ei ôl, sef tri yn New York, un yn West Bangor, un yn Slatington, un yn Hazleton a dau yn California. Mae lluaws o'i deulu yn aros yn Nghymru. Yr wyf yn deall fod iddo nai yn Ffestiniog o'r enw William Thomas, a chwaer iddo yn Glanmorfa, a nai o'r enw Thomas Humphrey. Yr oedd cefnder iddo hefyd yn Indianapolis, Indiana, yn 1876, o'r enw William G. Williams.

Nid oedd wedi gweithio dim er's blynyddoedd. Rhyw fath o ddyfrglwyf fu yr achos o'i farwolaeth. Ni chafodd ond byr gystudd. Claddwyd ef ar y 15fed cyfisol, y Parchn. J. Cadwaladr a H. Foulkes Williams yn gweinyddu.

Y Drych ~ Gorphenaf 3ydd 1890.