MR. DAVID H. WILLIAMS. HOLLAND PATENT. NEW YORK.

Mai 18fed, 1890, yn Holland Patent, New York, David H. Williams, yn 71 mlwydd, 4 mis a 2 ddiwrnod oed.

Daeth i'r wlad hon o Sir Feirionydd tua haner can mlynedd yn ôl. Cyn hir ar ôl dyfod drosodd ymunodd mewn priodas â Miss Catherine Pugh, yr hon ydoedd wraig rinweddol a rhagorol, a buont yn byw yn ddedwydd yn nghyd hyd nes y gwahanwyd hwy gan angeu.

Bu iddynt chwech o blant, tri o'r rhai sydd wedi eu gadael i alaru ar eu hol.

Bu Mrs. Williams farw amryw flynyddau yn ôl, ac arosodd yntau yn weddw yn ei hen gartref, a'i fab Willie yn nghyd a'i ferch Maggie yn aros gydag ef, yr hon a gadwodd gartref cysurus iddo, ac a ofalodd yn ffyddlon am dano yn ei gystudd olaf. Yr oedd Mr. Williams yn aelod yn yr eglwys Annibvnol er's tua phum mlynedd ar hugain.

Rhoddwyd yr hyn oedd farwol o hono i orphwys wrth ochr ei briod yn mynwent y lle. Gweinyddwyd yn ei angladd yn y tŷ, yn y capel ac wrth y bedd gan y Parchn. Thomas. T. Evans. C. H. Wetherbee a'r ysgrifenydd.
R. HUGHES.

Y Drych ~ Mehefin 5ed 1890.