MR. HENRY W. WILLIAMS. CATASAUQUA, PENNSYLVANIA.

Medi 7fed, 1890, yn 49 mlwydd a 10 mis oed, o'r asthma, Henry W. Williams, Catasauqua, Pennsylvania, mab i'r diweddar William Williams, Llwybrmain,, Mynydd Llandegai, Bethesda, Arfon, a brawd William Williams, yr hwn sydd yn ddiacon yn Treflys Bethesda er's chwarter canrif; hefyd brawd i Evan Williams, yr hwn sydd yn ddiacon gyda'r A. yn Slatington.

Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon yn 1866 i Danielsville, Pennsylvania.

Yn 1867, priododd gyda Maria, merch John Jones, ac yn mhen ychydig symudodd i Slatington, lle y treuliodd fwyaf o'i amser.

Ystyrid ef yn ddyn deallgar, didderbynwyneb a phenderfynol; a bu yn llenwi amryw swyddi mewn cymdeithas. Yr oedd ei allu a'i ddull naturiol yn hawlio sylw a gwrandawiad bob amser. Bu yn ffyddlon a gweithgar gyda chrefydd yn neillduol fel ymddiriedolwr capel yr A. Efe oedd yr ysgrifenydd er pan ddechreuwyd adeiladu y capel newydd hyd nes yr arweinwyd ef gan ei amgylchiadau dair blynedd yn ôl i Catasauqua, lle gorphenodd ei yrfa.

Medi lleg, cludwyd ei weddillion i Slatington, lle mae llawer o berthynasau a chyfeillion hoff iddo, a gwnaed gorymdaith o dŷ John Jones, tad ei weddw, i gapel yr A., pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. E. Williams a gweinidog yr M. E. yn Catasauqua yn effeithiol iawn.

Claddwyd ef yn Fairview Cemetery, y fan dewisedig ganddo. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ac i deimlo colled ar ei ôl.
'RHEN GILGWYN.

Y Drych ~ Hydref 2ail 1890.