MR. JOHN WILLIAMS. CLIFTON, IOWA.
Gorphenaf 30ain, 1890, tua 40 mlwydd oed, John Williams, Clifton, Iowa, mab i'r diweddar William a Margaret Williams, Penybryn, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i America tua 15 mlynedd yn ôl, a llwyddodd trwy ddiwydrwydd a chynildeb i bwrcasu fferm dda i fod yn eiddo iddo ei hun, yn ffinio ar fferm ei frawd W. W. Williams, amaethwr cyfrifol yn yr ardal. Er's dros flwyddyn yn ôl dechreuodd ei afu a'i beirianau treuliol fyned allan o drefn. Aeth i Wisconsin at fodryb iddo er mwyn ei iechyd am amryw fisoedd, gan dderbyn triniaeth feddygol dau law dau neu dri o feddygon, ond pob un yn methu ei hollol wellhau.
Yr oedd yn wrandawr cyson o'r efengyl, yn darllen llawer ar y Beibl, ac yn ei ddeall yn dda; a theimlai argyhoeddiadau dwysion ar ei feddwl yn aml, ond nid cyn y flwyddyn ddiweddaf yr ymunodd a chrefydd yn eglwys Moriah, ger Columbus, Wisconsin. Dychwelodd adref a'i llythyr eglwysig ganddo, ac yn ôl pob ymddangosiad wedi i cael gwlr gyfnewidiad. Cymerai ran yn y moddion cyhoeddus, a byddal weithiau yn afaelgar iawn mewn gweddi. Parhaodd i gael ei flino gan yr un anhwyldeb, a bu o dan law amryw o feddygon ar ôl dychwelyd adref, ac yr oeddynt oll yn coleddu gobeithion am ei adferiad.
Yr oedd er's llawer o flynyddoedd wedi dal cymdeithas ag un Miss Catherine Pritchard, heb fod yn mhell o'i gartref yn Nghymru. Y mis diweddaf daeth hi drosodd yma, gyda'r amcan o ymuno ag ef mewn priodas. Yr oedd efe wedi anfon amdani droion yn flaenorol, ond dydd Llun, Gorphenaf 14eg, y cyraeddodd hi y lle hwn. Pwrcaswyd trwydded i briodi, a bwriedid cyflawni y seremoni nos Iau, Gorphenaf 17eg, yn nhŷ ei frawd W. W. Williams; ond yn ddisymwth aeth yn sal iawn, a gwelwyd arwyddion o ddyryswch ar ei synwyrau, ond ni chynygiodd "niweidio ei ddyweddi," fel y camhysbysid yn y DRYCH, oblegid yr oeddwn yno ar y pryd yn gweled ac yn gweld y cwbl.
Pan welwyd arwyddion o ddyryswch ei synwyrau, barnwyd yn ddoeth ohirio y briodas, gan hyderu y deuai yn well yn fuan. Yn ôl cyngor y meddyg anfonwyd ef i Hospital for the insane yn Mount Pleasant, lle y bu farw o enyniad yr ymenydd. Anfonwyd telegram yn ddi-oed at ei frawd W. W. Williams I hysbysu hyny, a dranoeth aeth Mr. Humphrey Richards yno i gyrchu y corff, yr hwn a gladdwyd o dŷ ei frawd Awst 1af yn y gladdfa Gymreig.
Gweinyddwyd gan y Parchn. Jones ac Evans (A.), a phregethodd ysgrifenydd bregeth angladdol iddo yn Bethel Sabboth canlynol i gynulleldfa luosog. Cydymdeimlir yn fawr a'i frodyr a'i chwiorydd a'r perthynasau oll, yma ac yn Nhghymru, yn nghyd â Miss Pritchard yn ei phrofedigaeth chwerw. Teimlir yn chwith iawn ar ei ôl yn Bethel oblegid yr oedd yn ffyddlon yn y moddion ac yn athraw defnyddiol yn yr ysgol Sabbothol. Yr oedd yn gwrando y Parch. W. D. Evans yn pregethu yn Bethel bore Sabboth, Gorphenaf 13eg, ac yn llenwi ei le fel athraw ar ei ddosbarth.
RICHARD HUGHES.