MRS. KATE WILLIAMS. BANGOR PENNSYLVANIA.
Gorphenaf 19eg, 1890, yn Bangor, Pennsylvania, Mrs. Kate Williams, yn 26 mlwydd ac 11 mis oed.Ganwyd hi yn Bethesda, Gogledd Cymru. Yr oedd yn aelod dichlynaldd gyda'r Annibynwyr yn y lle. Cafodd ei rhan o groesau bywyd. Collodd ei phriod tua pedwar mis ar ddeg yn ôl, a gadawyd hi gyda dau o blant.
Ni feddai lawer o nerth corfforol, a chafodd gystudd trwm am hir amser. Bu farw yn dawel a hyderus yn mreichiau ei Gwaredwr. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol. Dylynwyd hi i dŷ ei hir gartref gan dyrfa luosog o berthynasau a chyfeillion galarus. Gwasanaethwyd wrth y tŷ, y capel a'r gladdfa gan y Parchn. Richard H. Owens (Monafab) a Peter Gray Evans.