MRS. MARY WILLIAMS. COLLEGE STREET, POULTNEY, VERMONT.
Chwefror 6ed, 1890, Mary, priod John Williams, College Street, Poultney, Vermont.Merch ydoedd i Elizabeth Humphreys, Beddgelert, lle y ganwyd hi yn 1840.
Yn 1863, priododd John R. Williams. Penrhiw, Dolyddelen, a ganwyd iddynt chwech o blant, dau o honynt wedi eu rhagflaenu ac un mab a thair merch yn aros i gydalaru a'u hanwyl dad.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddall er cyn geni yr ieuengaf o'r plant, ac yn y cyflwr hwnw y bu am yr ysbaid o 16 mlynedd. Cafodd nerth i oddef y cwbl yn dawel a dirwgnach. Yr oedd wedi dod i'r wlad hon yn Ebrill diweddaf.
Cafodd gladdedigaeth barchus gan dyrfa o Gymry yn mynwent Poultney, Chwefror 8fed.