MR. RICHARD WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Mai 7fed, 1890, yn Bangor, Pennsylvania, yn 61 mlwydd oed, Richard Williams, ar ôl iddo fod yn dyoddef cystudd trwm am hir amser yn dawel ac amyneddgar.Ymfudodd i'r wlad hon tua saith mlynedd yn ôl o Blaenau Ffestiniog, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Mab ydoedd i Richard Williams, Cae Mawr, Bangor, Gogledd Cymru.
Yr oedd ei briod wedi ei ragflaenu tua chwe' blynedd yn ôl. Gadawodd fab a merch, y rhai sydd wedi tyfu i fyny, i alaru ar ei ôl.
Dydd Sadwrn, y 10fed, rhoddwyd yr hyn oedd farwol o hono i orphwys yn mynwent Bangor. Cafodd angladd lluosog a pharchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Peter Gray Evans yn y tŷ, yn y capel ac ar lan y bedd. Yr Arglwydd a gysuro ac a nertho y plant yn eu trallod a'u galar.
TWROG.