MR. RICHARD X. WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Awst 11eg, 1890, yn 62 mlwydd oed, Richard X. Williams, Bangor, Pennsylvania.

Ganwyd ef yn Cwmyglo, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon pan nad oedd ond 17 mlwydd oed. Priododd y tro cyntaf gyda Mary Williams, Parc, chwaer Mr. David Williams, Slatington. Ganwyd iddynt bedwar o blant, tri o'r rhai sydd yn awr yn fyw. Priododd yr ail waith gyda Barbara, merch y llenor a'r bardd adnabyddus, y Parch. Hugh Hughes (Tegai). Ganwyd iddynt hwy bump o blant, tri o honynt yn awr yn fyw.

Ni bu Richard Williams erioed yn ddyn ofer. Yr oedd o dymer naturiol dawel, a phawb yn ei hoffi a'i barchu. Yr oedd ar hyd ei fywyd yn wrandawr cyson o'r efengyl, ac yn hoff o'r ysgol Sabbothol; ond rhywbryd tua blwyddyn yn ôl y rhoddodd ei hun yn aelod o'r eglwys, a dywedodd wrthyf mai y peth gorau a wnaeth erioed yn ei fywyd oedd hyny. Bu yn gysur a chynaiiaeth iddo yn ei gystudd. Yr oedd ei gystudd ar brydiau yn boenus, ond cafodd nerth i fyned trwyddo yn dawel a di-rwgnach, gan orphwys yn gwbl ar yr Arglwydd, a thrwy ffydd aeth trwodd yn dawel a diogel yn llaw ei Waredwr. Ei gystudd oedd dropsy of the liver.

Claddwyd ef ar y 14eg. Gweinyddwyd yn nghapel yr Annibynwyr, lle yr oedd yn aelod, gan y Parch. Ellis Jones, oedd yma ar y pryd; gan yr Iforiald ac yntau ar lan y bedd.
JOHN WILLIAMS.

Y Drych ~ Medi 11eg 1890.