MR. THOMAS WILLIAMS. BONTNEWYDD, RANDOLPH, WISCONSIN.
Gorphenaf 19eg, 1890, yn 68 mlwydd oed, o'r parlys, Thomas Williams, Bont Newydd, plwyf Randolph, Wisconsin.Mab ydoedd i Robert a Margaret Williams, Bont Newydd. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, yn un o ddau efaill, ac mae ei frawd eto yn fyw yn Nghymru. Magwyd ef gan ei daid a'i nain o ochr ei dad nes ydoedd tua 10 oed. Yn y cyfnod hwnw cafodd ychydig o fanteislon addysg, a rhagorai mewn dysgu ar ei gyfoedion; ac er mai ychydig o fanteislon addysg a gafodd wedi hyny, yr oedd wedi ymddyrchafu trwy ddiwydrwydd i safle dda a defnyddiol.
O'r adeg hono bu yn gweithio mewn chwarel, a phan oedd tua 23 mlwydd oed ymfudodd gyda'i deulu i'r wlad hon. Arosodd ef a brawd arall yn Pennsylvania am ychydig flynyddoedd, cyn dyfod ar ôl y teulu i Wisconsin.
Tua 1868, ymbriododd â Mary, gweddw y diweddar John M. Pritchard, merch i'r ddiweddar Ann Jones, Bryn Llan, Engedi. Ganwyd iddynt un ferch, yr hon sydd wedi goroesi ei thad.
Yr oedd Thomas Williams yn benteulu gofalus, caruaidd a dylanwadol, yn llywodraethu ei holl achosion yn bwyllog a doeth; yn ddyn didwyll, gonest a difrifol. Byddai lluaws yn dyfod a'u hachosion ato i ofyn ei gyfarwyddyd. Deallai y gyfraith yn dda, a thrwy hyny bu yn llawer o gymorth i'w gydgenedl, ac yn un o'r dynion mwyaf ei ddylanwad yn y plwyf i gario ei holl achosion yn mlaen, a braidd bob amser daliai ryw swydd bwysig ynddo. Yr oedd hefyd yn fyw i holl achosion y llywodraeth, yn hynod gartrefol gyda'r pethau hyny ac yn Werinwr selog a diysgog; nid gormod fyddai i ni ddweyd ei fod yn ddysgawdwr i'w genedl yn y cyfeiriad yma.
Ond yn benaf oll, yr oedd yn ddyn crefyddol; a dyma y llinell amlycaf yn ei holl gymeriad. Ymunodd â chrefydd pan tua 14 oed, pan gafodd fath o lewyg, yr hwn a fendithiwyd i'w ddychwelyd at grefydd, a bu yn ddyn defnyddlol gyda'r achoa ar hyd ei oes; er's blynyddau lawer yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Proscairon, yr hon sydd yn awr mewn galar a digalondid wedi colli cyngorwr profiadol, Cristion mewn esiampl, cyfranwr haelionus, goleuedig yn holl egwyddorion Cristionogaeth, a gweddiwr difrifol a sylweddol.
Gorphenaf 21ain, ymgynullodd tyrfa fawr i hebrwng gweddillion ein hanwyl, frawd i gladdfa Engedi. Yr oedd y dyrfa yn profi fod dyn pwysig yn cael ei gladdu y diwrnod hwnw; yr oedd yn bresenol tua 120 o gerbydau, pump o weinidoglon, sef y Parchn. R. H. Evans, John R. Daniel, David R. Jones, John Hammond a Mr. Eldridge. Gweinyddwyd gan yr oll, yn nghyd a'r Anrh. Ll. Breese. Gwnaed y rhan fwyaf o'r sylwadau yn yr iaith Saesneg, am fod lluaws mawr o Americaniaid yn bresenol.
Bydded amddiffyn yr Arglwydd dros ei deulu bach, amddifaid, sydd mewn galar ar ei ôl, a thros yr eglwys yn ei thrallod, a thros y perthynasau.
JOHN P. JONES.