MRS. ELIZABETH DAVIES. COALBURG, OHIO.

Mehefin 9fed, 1891, yn 56 mlwydd oed. Mrs. Elizabeth Davies, priod D. Davies, ar gyffiniau Coalburg. Ohio, o'r darfodedigaeth. Bu yn nychu am tua dwy flynedd. Mwynhaodd iechyd da ar hyd ni hoes; ond maluriwyd y rhagoriaeth hwn gan y clefyd dinystriol, er colled drom i'w phriod gyda saith o blant.

Daeth y cymydogion yn dyrfa luosog o bell ac agos i'w hehrwng i'w hir gartref yn mynwent Brookfield. Trodd y coedwigwyr hefyd allan yn gryf iawn.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Evans. Cleveland; Evan Griffiths Youngstown, a Thomas Griffiths, Sharon.

Genedigol oedd Mrs. Davies, o Dolgellau, Gogledd Cymru. Bu ei thad a'i mam farw pan oedd hi eto ond ieuainc a chymerodd ei thaid, sef Meurig Ebrill, ati i'w hymgeleddu.

Ymunodd â chrefydd gyda'r Annibynwyr yn Nolgellau pan yn 14 mlwydd oed, a bu farw yn y gobalth a'i daliodd i fyny ar hyd ei hoes. Gwynebodd ar y byd a'i drafferthion yn ddynes ieuanc. Bu yn gwasanaethu yn Lerpwl, ac wedi hyny yn Llundain. Daeth i gymydogaeth Coalburg yn 1873; ac yn Sharon ymbriododd â Mr. Davies dranoeth i'w dyfodiad. Ymsefydlasant ar y tyddyn ger y town line, lle y bu hi farw.

Yr oedd yn ddynes weithgar, hawddgar, hyawdl yn y ddwy iaith; yn hynod groesawgar ac yn gwmni difyrus, ac yn hoff iawn o gymdeithas. Yr oedd yn llawen ganddi gael y cyfleustra i fod yn garedig.

Y mae iddi frodyr yn Nghymru - Morris Jones, yn Nghaergybi; Owen a John Jones, yn Nolgellau; a chwaer yn briod â John Jones, y gof, yn y Bala.

Er i dranc ar dir yr estron
Wywo'th hawddgar wedd;
Er mai dyeithr wlith a ddisgyn
Bellach ar dy fedd;
Er nad mwyn awelon Cymru
Siant uwch y fan,
Eto'r un yw'r Ysbryd wylia
Hyd dy ddod i'r lan.

Y Drych ~ Gorphenaf 9fed 1891.