MR. RICHARD L. ELLIS. LAYFETTE, CONTRA COSTA COUNTY, CALIFORNIA.
Rhagfyr 28ain, 1891, yn 44 mlwydd oed, Richard L. Ellis, Layfette, Contra Costa County, California.Brodor o Bangor, Gogledd Cymru ydoedd, ac yr oedd yn y wlad yma er's yn agos 20 mlynedd.
Ni bu yn sal ond ychydig ddyddiau, ac er cryfed dyn ydoedd, syrtblodd yn aberth i'r clefyd peryglus y pneumonia.
Yr oedd yn Gymro caredig a thwym galon, ac yn un a berchid gan bawb.
Bu farw yn ddiewyllys; ond anfonwyd am ei frawd, yr hwn a dysgwyllr yma o Fangor. Cafodd angladd parchus gan ei gyfeillion Cymreig yn Oakland, Ionawr laf.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Moses Williams.