MRS. MARY EVANS. LAKE EMILY, WISCONSIN.
Gorphenaf 22ain, 1891, Mrs. Mary Evans, Lake Emily, Wisconsin. Dechreuodd ei hafiechyd gyda'r anwydwst yn y gwddf diweddaf. Yn nglyn a hwnw ymddadblygodd anhwylderau yn yr afu, yr elwlod, a madruddyn y cefn.Yr oedd yn y 69fed flwyddyn o'i hoedran. Ganwyd hi ar dyddyn o'r enw Brynbeddau, Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Magwyd hi gyda y Bedyddwyr yn Nghapel y Beirdd, a bu yn aelod yno pan yn ferch ieuanc. Pan tua dwy ar hugain oed priododd Humphrey Humphrey, Pencoed, o blwyf cyfagos Llanarmon, a chyn hir wedi hyny, yn 1845, ymfudasant i Ixonia, Wisconsin. Rhyw bum mlynedd wedi hyny bu farw ei phriod, gan ei gadael gyda thri o blant, y rhai ydynt wedi ei goroesi, sef G. H. Humphrey, Utica, New York; Mrs John W. Morris. Lake Emily, Wisconsin, a John E. Humphrey, Ixonia, Wisconsin.
Yn 1854, priododd James Evans, Lake Emily, yr hwn a fu farw yn 1876.
Dyoddefodd ei chystudd olaf yu amyneddgar. Yr oedd ei merch a'i dau fab gyda hi pan oedd yn huno yn angeu.
Claddwyd hi wrth ochr ei gŵr cyntaf yu Ixonia. Gweinyddwyd yn ei hangladd yn nhŷ ei merch, cyn cychwyn o Lake Emily, gan y Parchn. J. R. Daniel J. R. Jones a D. H. Jones, ac yn Ixonia yn nghapel yr Annibynwyr ac ar lan y bedd, gan y Parch Owen O. Jones. Dangosdd yr ardalwyr yn y ddau le barch diffuant i'w choffadwriaeth. Mae iddi amryw frodyr a chwiorydd yn Nghymru. Tra nad oedd heb ei cholliadau, perthynai iddi lawer o ragoriaethau. Casâi ffug, hoced a rhagrith a chas cyflawn. Meddai ewyllys gref ac anhyblyg. Cafodd ei chyfran o helbulon a chwerwderau y byd: ond aeth trwyddynt oll heb ymollwng, na cholli ei sirioldeb. Oherwydd amgylchiadau nad oedd hi yn hollol gyfrifol am danynt, nid oedd ei heuw ar lyfr un eglwys ar y ddaear; ond mynychai a mwynhai foddion gras, a phan wrthi ei hun suo-ganai lawer ar hen benillion efengylaidd.